Mae Robbie Savage yn rhan o grŵp, wedi eu harwain gan y dyn busnes lleol Robert Smethurst, sydd wedi prynu Clwb Pêl-droed Macclesfield ac sydd wedi ail-lansio’r clwb fel Macclesfield FC.

Mae cyn-chwaraewr Caerlŷr, Birmingham, Blackburn a Chymru yn gyfaill i Robert Smethurst ac fe fydd e’n awr yn aelod o fwrdd y clwb, yn ogystal â bod yn Bennaeth Pêl-droed.

Roedd y clwb wedi bod yn yr Uchel Lys ac wedi ei ddiarddel o’r Gynghrair Genedlaethol fis diwethaf, ar ôl methu â thalu mwy na £500,000 o ddyledion.

Cafodd holl chwaraewyr a staff y clwb eu diswyddo, ond mae Robert Smethurst yn bwriadu ailadeiladu’r clwb.

“Mae hwn yn gyfle cyffrous dros ben i ail-adeiladu clwb hanesyddol i Macclesfield a’r cyffiniau, ac rwy’ eisiau sicrhau ein bod yn dod â phêl-droed yn ôl i galon y gymuned leol,” meddai.

Ac mae Robbie Savage yn dweud ei fod yn falch o gael ei benodi.

“Dw i’n falch iawn o gael cymryd y rôl a chefais fy synnu pan ges i’r alwad,” meddai.

“Dw i’n byw o fewn tafliad carreg i’r cae ac mae gennyf gysylltiadau â’r clwb fel hyfforddwr lleol a thad sy’n dod â’i blant i wylio gemau yma.”