Fe fydd yr amddiffynnwr canol Chris Mepham ar gael nos yfory (nos Fercher, Hydref 14), wrth i dîm pêl-droed Cymru deithio i Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Mae Cymru ar frig B4 gyda saith pwynt ar ôl tair gêm, a dydyn nhw ddim wedi ildio’r un gôl yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

Doedd Mepham ddim ar gael i wynebu Gweriniaeth Iwerddon ddydd Sul (Hydref 11) oherwydd iddo anafu ei ben-glin yn y gêm yn erbyn Lloegr yn Wembley.

Ond fydd David Brooks, Kieffer Moore, Hal Robson-Kanu na Joe Morrell ddim ar gael i Ryan Giggs, sy’n cyfaddef nad oedd ganddo fe ddigon o amser i alw eilyddion i’r garfan oherwydd y protocol llym yn ymwneud â phrofion coronafeirws.

Coronafeirws

“Roedd gyda ni lygad ar bob gêm o safbwynt y senario berffaith,” meddai’r rheolwr.

“Mae chwaraewyr yn mynd i mewn i’r gemau’n edrych yn ffres.

“Dydy hi ddim yn hawdd oherwydd rydych chi’n cael anafiadau a gwaharddiadau, a dydy hi byth yn mynd yn berffaith.

“Ond fe fu gyda ni gynllun wrth gefn ac mae pob gwlad yn yr un cwch.

“Fe gawson ni gyd ein profi ar ôl y gêm ddydd Sul felly ar ôl hynny, fe fyddai wedi bod yn anodd iawn dod â chwaraewyr i mewn.

“Roedd gyda ni 26 o chwaraewyr, ac ro’n i’n meddwl bod hynny’n iawn.

“Fe fu’n fwy problematig oherwydd y sefyllfa Covid, ond roedden ni’n teimlo bod gyda ni ddigon o chwaraewyr.”