Mae Gerwyn Price wedi codi i’r ail safle ar restr detholion y byd ar ôl ennill Grand Prix Dartiau’r Byd neithiwr (nos Lun, Hydref 12).

Fe gurodd e’r Iseldirwr Dirk van Duijvenbode o 5-2 wrth ennill cystadleuaeth deledu am y trydydd tro.

Dim ond Michael van Gerwen sydd uwchlaw’r Cymro ar y rhestr detholion erbyn hyn.

Mae e wedi ennill £110,000 yn ogystal â phedwerydd tlws allan o bump.