Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n gobeithio denu’r amddiffynnwr canol Joel Latibeaudiere am ddim o Manchester City, yn ôl adroddiadau.

Fe ddaw wrth iddyn nhw ddisgwyl i Spurs wneud cynnig am amddiffynnwr canol Cymru Joe Rodon cyn i’r ail ffenest drosglwyddo gau ddydd Gwener (Hydref 16).

Treuliodd Latibeaudiere, 20, y tymor diwethaf ar fenthyg yn FC Twente yn yr Iseldiroedd, gan sgorio un gôl mewn pum gêm.

Roedd e’n un arall o garfan dan 17 Lloegr enillodd Gwpan y Byd yn 2017 o dan reolaeth Steve Cooper, rheolwr Abertawe, gyda Marc Guehi a Morgan Gibbs-White eisoes yn chwarae yn y Liberty.

Er iddo ymuno â Manchester City yn ei arddegau cynnar, dydy e erioed wedi chwarae i’r tîm cyntaf.