Bydd y Seintiau Newydd yn croesawu Cei Connah yn Uwch Gynghrair JD heno (nos Fawrth, Hydref 13).

Cafodd yr ornest ei haildrefnu yn sgil ymrwymiadau’r ddau glwb yn Ewrop.

Cei Connah sydd ar y brig ar hyn o bryd ar ôl dechrau’n ddi-guro, tra bo’r Seintiau Newydd yn ail.

Dim ond dau o bwyntiau mae’r ddau dîm wedi’u colli at ei gilydd, gan sgorio cyfanswm o 43 o goliau rhyngddyn nhw ac ildio dwy.

Mae un pwynt yn gwahanu’r timau ar y brig, ac mae’r ddau dîm wedi ennill chwe gêm yn olynol, ond mae gan y Seintiau Newydd gêm wrth gefn.

Bydd y gêm ar gael i’w gwylio ar dudalen Facebook Sgorio, a sylwebaeth ar Radio TNS drwy wefan y clwb.

Bydd y gic gyntaf am 7.45yh.