Roedd siom i dîm pêl-droed Wrecsam ar y Cae Ras neithiwr (nos Lun, Hydref 12), wrth i Maidenhead gipio’u pwyntiau cynta’r tymor hwn wrth ennill o 1-0.

Sgoriodd Josh Coley y gôl fuddugol ar ôl 32 munud wrth i Jordan Davies golli’r meddiant, cyn i Shaun Donnellan groesi’r bêl, a’r sgoriwr yn plymio a phenio’r bêl i’r rhwyd.

Roedd yr ymwelwyr eisoes wedi taro’r postyn cyn hynny oddi ar gic rydd gan Luke Young.

Methodd Kwame Thomas a Jordan Ponticelli ag unioni’r sgôr yn yr ail hanner.

Daeth ail gyfle i Ponticelli ar ôl 79 munud, ond roedd y lluman i fyny am gamsefyll.

Gallai Wrecsam fod wedi ennill dwy gic o’r smotyn hefyd.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Dean Keates yn wythfed yn y Gynghrair Genedlaethol.