Mae rheolwr Cymru Ryan Giggs wedi rhybuddio Kieffer Moore i fod yn fwy ymwybodol o ddyfarnu Ewropeaidd ar ôl iddo gael ei wahardd rhag chwarae i Gymru yn erbyn Bwlgaria.
Derbyniodd yr ymosodwr ei ail gerdyn melyn yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn y gêm gyfartal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ddydd Sul (Hydref 11).
“Mae’n rhaid i Kieffer fod yn fwy ymwybodol o hynny,” meddai Ryan Giggs. “Mae’n gallu bod yn rhy gorfforol o safbwynt pêl-droed Ewropeaidd.
“Mae’n rhwystredig. Dw i’n credu bod penderfyniadau wedi mynd yn ei erbyn ac na fyddai rhai dyfarnwyr wedi ei gosbi.”
Mae Kieffer Moore wedi bod yn chwaraewr pwysig i Gymru ers torri mewn i’r tîm rhyngwladol yn 2019.
Hyd yma, mae’r gŵr 28 oed, sy’n chwe throedfedd pum modfedd o daldra, wedi sgorio tair gwaith mewn naw o gemau, ac mae Cymru manteisio ar ei rinweddau corfforol gan anelu peli uchel tuag ato.
Addasu’r ymosod
Mae Ryan Giggs, fydd heb y chwaraewr canol cae Joe Morrell yn Sofia chwaith, yn derbyn bod yn rhaid i Gymru addasu eu hymosod heb Kieffer Moore.
“Mae gennym Tyler Roberts yn ogystal ag opsiynau eraill,” meddai.
“Bydd y ffordd rydym yn ymosod ychydig yn wahanol a chawn weld beth rydym yn credu bydd orau ym Mwlgaria.”
Mae Cymru ar frig ei grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd gyda saith pwynt allan o naw hyd yma.
Ond dyw’r Ffindir ddim ond un pwynt y tu ôl i Gymru a byddan nhw hefyd yn anelu am y safle cyntaf.
Dyw Cymru ddim wedi ildio gôl yn y gystadleuaeth eto ond wedi llwyddo i sgorio dwy gôl yn unig mewn tair gêm.