Fe wnaeth Grŵp Undeb Rygbi Cymru (URC) drosiant o £79.9m yn y flwyddyn hyd at Fehefin 30 eleni gyda cholledion o £5.3m, gan rybuddio am “heriau sylweddol”.

Mae Adroddiad Blynyddol y grŵp, gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener (Hydref 9), yn datgelu effaith gohirio rownd olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban ac yn disgrifio sut mae 78% o incwm Undeb Rygbi Cymru’n dod o gynnal gemau rhyngwladol.

Roedd cyfanswm cost gohirio’r gêm yn erbyn yr Alban yn unig yn £8.1m a chafodd colledion Undeb Rygbi Cymru eu heffeithio gan absenoldeb digwyddiadau eraill.

Ond mae’r adroddiad yn nodi fod eu “hymateb cyflym” i’r argyfwng wedi gweld costau’n gostwng.

Roedd hyn yn cynnwys lliniaru gwariant oedd ddim yn hanfodol, gostwng cyflogau staff a gwneud defnydd o Gynllun Cadw Swyddi’r Llywodraeth.

Fe wnaeth hyn, ynghyd â £4.9m o incwm ychwanegol, helpu i liniaru effaith pandemig y coronafeirws, meddai URC.

“Fyddai cadw colledion yn sgil pandemig y coronafeirws i £5.3m ddim wedi bod yn bosib heb ymdrechion ein Bwrdd, ein partneriaid masnachol a’r teulu rygbi ehangach,” meddai Prif Swyddog Gweithredol Undeb Rygbi Cymru Steve Phillips.

“Cafodd mesurau eu cyflwyno yn syth er mwyn lleihau costau a gwarchod ein safle ariannol.

“Fodd bynnag, mae hi’n rhy gynnar i fesur gwir effaith pandemig y coronafeirws ar berfformiad ariannol y dyfodol a bydd y Grŵp yn parhau i fonitro’r sefyllfa.”

Ail-fuddsoddi mewn clybiau cymunedol

Mae’r adroddiad yn dweud bod gweithredoedd pendant wedi galluogi’r Grŵp i barhau i ail-fuddsoddi mewn clybiau cymunedol, gan gynnwys gwneud £1m o gyllid argyfwng ar gael i helpu gydag ailadeiladu ar ôl Storm Dennis ac ymateb i bandemig y coronafeirws.

Cynyddodd ymdrechion ail-fuddsoddi’r Grŵp mewn rygbi cymunedol o £4.5m yn 2019 i £4.6m yn 2020.

Fodd bynnag, gostyngodd cyfanswm buddsoddiad yn y gêm o £49.6m yn 2019 i £47.5m yn 2020.

Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod y tymor rygbi wedi dod i ben yn gynnar.