Mae’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens yn cynnig rhoi crysau i glybiau sydd wedi cael eu taro gan Storm Dennis er mwyn codi arian ar gyfer gwaith trwsio hanfodol.
Daw’r cynnig ar ei dudalen Twitter ar ôl i lifogydd sylweddol yng ngwledydd Prydain, ac yn enwedig yn rhannau helaeth o dde Cymru, ddinistrio caeau a chyfleusterau.
Ymhlith y rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf mae clybiau rygbi Bedwas, Crosskeys, y Coed Duon, Rhymni, Rhisga
“I’r holl glybiau rygbi allan yna,” meddai neges ar dudalen Twitter Nigel Owens.
“Os ydych chi’n credu y bydd yn helpu a’ch bod chi eisiau crys dyfarnu wedi’i lofnodi gen i a all fod yn gymorth mewn ocsiwn neu raffl i godi arian ar ôl Storm Dennis, plis rhowch wybod i fi.
“Byddaf yn anfon DM (neges breifat) atoch i drefnu.
“Yn meddwl amdanoch chi i gyd sydd wedi dioddef o ganlyniad iddi.”