Mae Cymdeithas bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd tîm Ryan Giggs yn herio’r Iseldiroedd yn eu paratoadau ar gyfer Ewro 2020.
Byddan nhw’n teithio i Rotterdam ar Fehefin 6 i Stadion Feijenoord, gyda’r gic gyntaf am 6.30yh.
Dyma fydd cyfle ola’r chwaraewyr i blesio Ryan Giggs cyn i’r garfan deithio i Baku ar gyfer eu gemau agoriadol yn erbyn y Swistir a Thwrci.
Chwaraeodd y ddau dîm yn erbyn ei gilydd mewn gêm gyfeillgar cyn Ewro 2016 ym mis Tachwedd 2015.
Colli o 3-2 oedd hanes Cymru bryd hynny, gyda Joe Ledley ac Emyr Huws yn sgorio, cyn i Arjen Robben sgorio’r gôl fuddugol ar ôl 81 munud.
Byddai buddugoliaeth dros yr Iseldiroedd yn hwb enfawr i Gymru wythnos yn unig cyn i Ewro 2020 ddechrau.