Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi talu teyrnged i Harry Gregg, cyn-reolwr y clwb ac arwr damwain awyr Munich.

Fe fu farw cyn-golwr Gogledd Iwerddon yn 87 oed yn dilyn salwch byr.

Roedd e’n rheolwr ar yr Elyrch rhwng 1972 a 1975.

Ond mae’n cael ei gofio’n bennaf fel un o oroeswyr damwain awyr Munich, pan darodd awyren tîm Manchester United y ddaear ar Chwefror 6, 1958 gan ladd 23 o bobol, gan gynnwys sawl chwaraewr.

Fe wnaeth e ddychwelyd i’r awyren sawl gwaith i achub pobol, gan gynnwys ei gyd-chwaraewyr Bobby Charlton a Dennis Viollet.

Gyrfa

Cafodd ei brynu gan Manchester United am £23,000 yn 1957, a hynny’n ei wneud e’n golwr druta’r byd ar y pryd.

Cafodd ei enwi’n golwr gorau Cwpan y Byd yn 1958.

Treuliodd e naw mlynedd gyda Manchester United, gan chwarae 247 o weithiau.

Aeth e i Stoke wedyn, cyn ymddeol a dod yn rheolwr ar Amwythig, Abertawe, Crewe a Chaerliwelydd.

Enillodd e 25 o gapiau dros Ogledd Iwerddon.

Teyrnged Abertawe

 Mae Abertawe wedi postio teyrnged ar eu cyfryngau cymdeithasol.

“Mae pawb yn y clwb yn drist ynghylch marwolaeth cyn-reolwr yr Elyrch, Harry Gregg,” meddai’r neges.

“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau.”