Mae’r sylwebydd pêl-droed Craig Ramage wedi cael ei ddiswyddo gan y BBC ar ôl beirniadu “holl fois croenddu” tîm Derby yn ystod sylwebaeth fyw.
Roedd e’n sylwebu ar y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Huddersfield yn y Bencampwriaeth ar BBC Radio Derby pan wnaeth e ladd ar y criw penodol o chwaraewyr.
“Pan dw i’n edrych draw ar chwaraewyr penodol, osgo eu corff, eu ffordd o sefyll, y ffordd maen nhw’n ymddwyn, rydych chi’n teimlo, ‘arhoswch funud – mae angen ei dynnu fe i lawr fymryn’.
“Felly byddwn i fwy na thebyg yn dweud hynny am yr holl fois ifainc croenddu.”
Fe wnaeth e ymddiheuro’n ddiweddarach am ei sylwadau “cwbl amhriodol”, ond daeth cadarnhad gan y BBC na fydden nhw’n ei gyflogi fe eto.
Ymddiheuriad
Yn dilyn y digwyddiad, postiodd Craig Ramage ymddiheuriad ar Twitter.
“Hoffwn ymddiheuro’n ddi-ben-draw am sylw wnes i ar ôl y gêm ddoe,” meddai.
“Roedd yr hyn ddywedais i’n gwbl amhriodol ac yn anfwriadol.
“Mae hil yn amherthnasol i’r hyn ro’n i’n ei drafod a dw i’n difaru’n fawr yr hyn ddywedais i.
“Gobeithio’n fawr bod y chwaraewyr yn derbyn fy ymddiheuriad.
“Hoffwn ategu fy ymddiheuriad, nid yn unig i’r chwaraewyr ond hefyd i’r cefnogwyr sydd wedi gwrando arna i dros y saith mlynedd diwethaf, a hefyd i’r rhai sydd wedi fy nilyn yn ystod fy ngyrfa.
“Hoffwn ategu nad yw’r camgymeriad hwn yn adlewyrchu fy marn bersonol mewn unrhyw ffordd.”
Ymateb Derby
Mae Clwb Pêl-droed Derby yn dweud eu bod nhw’n cefnogi’r chwaraewyr yn llwyr.
Maen nhw’n dweud iddyn nhw gysylltu â’r BBC i drafod y mater, gan ychwanegu nad ydyn nhw’n “derbyn gwahaniaethu ar unrhyw ffurf”.
Mae Max Lowe, un o chwaraewyr croenddu Derby, wedi gwneud datganiad ar ran y chwaraewyr, gan ddweud iddo gael “sioc” o glywed y sylwadau.
“Mae anwybodaeth, ystrydebu ac anoddefgarwch hiliol yn effeithio delwedd chwaraewyr pêl-droed ifainc sy’n hawdd creu argraff arnyn nhw mewn modd negyddol, ac mae’n creu rhaniad di-angen yn y gymdeithas.”
Cafodd y sylwadau eu darlledu yn ystod cyfnod pan fo BBC Derby yn hyrwyddo rhaglen nodwedd gyda Charlie Palmer, chwaraewr croenddu, am ei anawsterau fel chwaraewr croenddu yn y 1980au.
Ymgyrch gwrth-hiliaeth
Mae ymgyrch Kick It Out, sy’n tynnu sylw at hiliaeth yn y byd pêl-droed wedi beirniadu’r sylwadau.
“Mae’r sylwadau hyn yn destun sioc ac mae’r safbwyntiau a gafodd eu mynegi’n un agwedd ar y math o ystrydebau hiliol di-feddwl roedden ni’n eu clywed 50 mlynedd yn ôl,” meddai’r cadeirydd Sanjay Bhandari wrth y Guardian.
“Dydyn ni ddim yn disgwyl eu clywed nhw’n cael eu defnyddio mewn modd diog yn 2020.”