Mae Plaid Cymru’n galw am gymorth i’r awdurdodau pêl-droed er mwyn helpu clybiau yng Nghymru sy’n wynebu trafferthion ariannol yn sgil y coronafeirws.

Dywed Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd y blaid, y bydd effeithiau diffyg ariannu’n rhai eang, gan gynnwys gwneud y Cymry’n llai gweithgar yn gorfforol ac yn llai iach, ac y bydd yn golygu llai o gyfleoedd i genedlaethau’r dyfodol.

Mae’n dweud bod yna bryderon erbyn hyn am bêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru, ac ymhlith y rhai sydd wedi lleisio’r pryderon hynny mae rheolwyr Llangefni a Chaergybi yn ei etholaeth ym Môn.

Tra bod haenau ucha’r gêm yng Nghymru’n cael chwarae eto, dydy’r cynghreiriau is ddim yn cael dychwelyd i’r cae o hyd.

Llangefni

Yn ôl Chris Roberts, rheolwr Llangefni, mae’n poeni am yr “effaith y bydd yr absenoldeb hir hwn o chwarae’n gystadleuol” yn ei chael ar ei chwaraewyr.

“Fel clwb, rydan ni, fel cymaint o rai eraill, yn yr unfan ar hyn o bryd oherwydd does gynnon ni ddim syniad pryd fyddwn ni’n cael chwarae pêl-droed gystadleuol eto,” meddai.

“Mae dwylo Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi’u clymu, mewn gwirionedd, oherwydd fedran nhw ddim rhoi’r ‘OK’ i ni chwarae gemau cystadleuol hyd nes bod Llywodraeth Cymru’n cyfarfod hefo nhw hanner ffordd ac yn rhoi’r amodau ar waith i alluogi hynny i ddigwydd.

“Dw i’n poeni am yr effaith fydd yr absenoldeb hir yma o chwarae’n gystadleuol yn ei chael, nid dim ond ar iechyd corfforol a meddyliol fy chwaraewyr a staff, ond hefyd ar glybiau ledled wlad, ac ar gymryd rhan mewn chwaraeon yn gyffredinol hefyd, sydd mor bwysig i’n hiechyd a’n lles, yn enwedig ar adeg fel hon.

“Mae chwaraeon cystadleuol wedi bod yn rhan mor bwysig o’n bywydau er pan oedden ni’n hogia’ ifanc, felly mae cael hynny wedi’i gymryd i ffwrdd oddi wrthon ni ar adeg pan fo’i angen fwya’ yn boenus iawn a gobeithio bod modd cael ateb yn fuan er mwyn ein galluogi ni i chwarae neu fe fydd clybiau a chwaraewyr yn diflannu’n gyflym, a fydd hynny nid yn unig yn ein heffeithio ni rwan, ond hogia’ a genod ifanc fydd isio chwarae ffwtbol yn y dyfodol hefyd.”

Caergybi

Ac mae Darren Garmey, rheolwr Caergybi, yn dweud bod plant “wedi colli’r ysfa oedd gynnon nhw cyn y cyfnod clo i fod yn weithgar yn gorfforol”, a’i fod yn poeni am ddyfodol tîm iau’r clwb.

“Mae angen i ni weld cynllun gweithredu clir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dychwelyd i chwaraeon cystadleuol, a bod y gefnogaeth ariannol ar gael i’w alluogi o i ddigwydd os na fedrwn ni gael cefnogwyr am rwan,” meddai.

“Mae lles corfforol a meddyliol fy chwaraewyr a staff yn cael ei cholbio oherwydd fedrwn ni ddim chwarae gemau cystadleuol, a does dim cynllun fedrwn ni ei weld sy’n ein galluogi ni i ddychwelyd yn fuan.

“Mae gynnon ni adran iau sy’n ffynnu yn y clwb, ond hyd yn oed yn y fan honno, dw i wedi gweld sut effaith sydd wedi bod ar ein chwaraewyr ar ôl misoedd heb gemau cystadleuol – plant ifanc sydd wedi colli’r ysfa oedd gynnon nhw cyn y cyfnod clo i fod yn weithgar yn gorfforol ac i aros yn iach drwy chwaraeon, boed yn bêl-droed neu beidio.

“I’n chwaraewyr hŷn, mae’r effeithiau hynny hyd yn oed yn fwy, gan fod nife ryn teimlo’r pwysau o ddarparu ar gyfer eu teuluoedd drwy gydol y pandemig ar eu hysgwyddau hefyd, a dw i’n poeni’n arw am effaith peidio â chwarae’n gystadleuol ar bawb yn ein cymuned chwaraeon.

“Dw i ddim yn meddwl bod Llywodraeth Cymru’n sylweddoli pa mor ddifrifol ydi’r sefyllfa hon.

“Mae angen iddyn nhw ei datrys, a gwneud hynny’n gyflym.”

Ymateb i’r pryderon

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod arian ar gael i Gymdeithas Bêl-droed Cymru i helpu’r clybiau ar lawr gwlad.

Wrth ddosbarthu arian trwy law’r Gymdeithas Bêl-droed, mae’n dweud y bydd modd teilwra’r cymorth fesul clwb neu gynghrair yn ôl yr angen, heb fod clybiau unigol yn gorfod cystadlu am arian yn erbyn clybiau ym mhob un o’r campau.

“Mae cynaladwyedd clybiau chwaraeon ledled Cymru’n bryder gwirioneddol, ac un enghraifft yn unig ydi pêl-droed,” meddai.

“Mae clybiau pêl-droed yn dweud wrtha i y byddan nhw’n diflannu heb gymorth ariannol.

“Bydd y sgil effeithiau’n gwneud Cymru’n llai gweithgar yn gorfforol, yn llai iach ac â llai o gyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae tîm chwaraeon lleol yn fwy na’r gamp ei hun – mae’n ymwneud â dod â chymunedau ynghyd, y manteision iechyd ac wrth gwrs, bwydo doniau drwodd i’r haenau uwch.

“Heb glybiau’n symud ar lawr gwlad, bydd y gêm genedlaethol yn dioddef yn y pen draw.

“Mae’n bwysig bod cymorth ariannol ar gael i gyrff llywodraethu sydd wedyn yn medru penderfynu sut orau i ddefnyddio’r arian.”

Ymateb Llywodreth Cymru

“Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ailgychwyn pêl-droed yn y gwahanol gynghreiriau yng Nghymru, byddwn yn gwneud hynny”, meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360.

“Rydym wedi darparu arweiniad i chwaraeon ddychwelyd yn ddiogel ac rydym yn gweithio gyda Sport Wales a chyrff yng Nghymru i ddychwelyd yn ddiogel i chwarae.

“Mae gan glybiau yn Uwch Gynghrair Cymru holl reolaeth dros y lleoliadau y maent yn gweithredu ynddynt.

“Ni ellir dweud hynny am rai rhannau eraill o’r pyramid pêl-droed. Mae iechyd a diogelwch chwaraewyr, swyddogion a’r cyhoedd yn hollbwysig ac ni fyddwn yn peryglu hynny.

Ychwanegodd y Llefarydd mai Chwaraeon Cymru sydd yn gyfrifol am gronfa gwydnwch chwaraeon, sydd wedi darparu cyllid uniongyrchol i Gymdeithas Bêl Droed Cymru, yn ogystal â Chronfa Cymru Actif sy’n canolbwyntio ar glybiau cymunedol.

“Gyda chefnogaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru o ran hyrwyddo ac asesu, mae clybiau pêl-droed wedi bod yn fuddiolwyr sylweddol y gronfa honno.”