Mae Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn dweud ei fod e’n “hapus” gyda’r canlyniad wrth ennill pwynt am gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Nulyn, ond mae’n cyfaddef “nad oedd y perfformiad yn grêt” ac nad oedd penderfyniadau’r dyfarnwr wedi ei blesio.

Prin iawn oedd cyfleoedd y naill dîm a’r llall o flaen y gôl, a chafodd Cymru eu gwasgu am gyfnodau o’r gêm.

Aeth y Gwyddelod i lawr i ddeg dyn yn niwedd y gêm, wrth i James McLean weld ail garden felen funudau’n unig ar ôl y gyntaf, a hynny am lorio Ethan Ampadu.

Mae Cymru’n teithio i Fwlgaria nos Fercher, gan obeithio parhau â’u rhediad di-guro yn y gystadleuaeth, ond gan obeithio hefyd am berfformiad gwell.

“Ro’n i’n meddwl nad oedd y perfformiad yn grêt, a wnaethon ni ddim wir ddarganfod ein rhythm,” meddai Giggs.

“Er mawr clod iddyn nhw, wnaeth Iwerddon ein gwasgu ni ar draws y cae, ac roedden ni’n gwybod y bydden nhw.

“Ond rhaid i ni ddangos yn well y gallwn ni fod yn ddigynnwrf.

“Ond rydyn ni’n amlwg wrth ein boddau gyda thair gêm, saith pwynt allan o naw. Rhaid bod yn hapus.”

Canmol Aaron Ramsey

Dychwelodd Aaron Ramsey i’r tîm ar ôl colli’r gêm yn erbyn Lloegr oherwydd protocol coronafeirws Juventus, lle bu’r chwaraewyr mewn cwarantîn.

Yn ôl Giggs, y blaenwr oedd yr un mwyaf tebygol drwy gydol y gêm o greu cyfleoedd i sgorio.

“Aaron oedd yr un oedd yn edrych yn beryglus, oedd yn edrych yn allweddol,” meddai.

“Ond p’un a oedd yn chwarae da gan Iwerddon, yn benderfyniad anghywir neu’n ddiofal o ran ein cyffyrddiad cyntaf neu’r bàs olaf, roedden ni’n ymddangos fel pe baen ni’n torri i lawr.

“Roedd Aaron yn edrych ar adegau fel yr un oedd yn mynd i wneud gwahaniaeth ond wnaethon ni ddim gwneud digon o hynny, wnaethon ni ddim rhoi Iwerddon dan bwysau a chadw’r bêl gystal ag y gallwn ni.”

Dyfarnwr dan y lach

Wrth drafod y penderfyniad i beidio â rhoi cic o’r smotyn am drosedd ar Ethan Ampadu, dywed Giggs nad oedd e’n “gwybod beth roedd y dyfarnwr yn ei wneud”.

“Doedd hi’n sicr ddim yn drosedd gan Ethan, mae hynny’n sicr,” meddai.

“Mae’r golwr yn ei gollwng hi, mae [Ethan] yn penio’r bêl, dyw hynny ddim yn drosedd yn ei erbyn e.

“Bydden ni’n sicr wedi hoffi’r gic o’r smotyn, dyna’r math o benderfyniadau rydyn ni’n eu cael weithiau, ond doedd hi’n sicr ddim yn drosedd gan Ethan felly dw i ddim yn gwybod beth roedd y dyfarnwr yn ei wneud.”

Cyfnod byr cyn Bwlgaria

Tridiau’n unig sydd gan Ryan Giggs a’i dîm cyn herio Bwlgaria oddi cartref nos Fercher (Hydref 14).

Ond roedd hynny i’w ddisgwyl, yn ôl Giggs.

“Mae’n gyfnod tynn, roedden ni’n gwybod y byddai hynny’n anodd,” meddai.

“Mae gyda ni ambell chwaraewr nad ydyn nhw’n 100% o ran eu ffitrwydd.

“Tair gêm oddi cartref, ac rydyn ni wedi teithio dipyn ond byddwn ni’n barod.

“Mae gyda ni nifer o chwaraewyr ar goll, ond yn amlwg mae hynny’n rhoi cyfle i chwaraewyr eraill ddod i mewn a byddwn ni’n ceisio dod â ffresni i mewn ac edrych yn ôl ar y gêm i weld lle gallwn ni wella.”