Daeth gêm bêl-droed ddi-fflach Cymru yn erbyn deg dyn Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Nulyn i ben yn gyfartal ddi-sgôr.
Ond mae’r canlyniad yn gadael tîm Ryan Giggs ar frig y tabl, gyda dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal yn eu tair gêm gyntaf yn y gystadleuaeth.
Aeth y tîm cartref i lawr i ddeg dyn yn niwedd y gêm yn dilyn tacl flêr James McLean ar Ethan Ampadu.
Fe allai Ampadu fod wedi ennill cic o’r smotyn i’w dîm yn yr hanner cyntaf, ond fe benderfynodd y dyfarnwr nad oedd e wedi cael ei lorio gan y golwr Darren Randolph.
Yr un oedd y canlyniad pan oedd Cymru’n teimlo bod Shane Duffy a Cyrus Christie ill dau wedi llawio’r bêl yn dilyn ergyd gan Aaron Ramsey, oedd yn ôl yn nhîm Cymru ar ôl colli’r gêm yn erbyn Lloegr oherwydd protocol coronafeirws Juventus yn yr Eidal.
Daeth cyfle cynta’r gêm i’r Gwyddelod ar ôl 54 munud, pan ergydiodd Shane Long dros y trawst â’i ben.
Daeth dwy garden felen McLean yn agos i’w gilydd yn y munudau clo wrth i Gymru gyflymu’r tempo ryw fymryn wrth chwilio am y gôl fuddugol.
Bydd Cymru’n teithio i Fwlgaria nos Fercher (Hydref 14) yn y gobaith o wella’r perfformiad a’r canlynid.