Mae tîm pêl-droed Gweriniaeth Iwerddon wedi colli pump o chwaraewyr o’r garfan i herio Cymru yn Nulyn yn dilyn prawf coronafeirws positif.
Dydy’r chwaraewr ddim wedi cael ei enwi, ond mae pedwar arall – John Egan, Callum Robinson, Callum O’Dowda ac Alan Browne – i gyd allan ar ôl dod i gysylltiad agos â’r chwaraewr.
Daw’r prawf positif yn dilyn profion swyddogol UEFA cyn y gêm yn Stadiwm Aviva am 2 o’r gloch heddiw (dydd Sul, Hydref 11).
Dywed Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon fod y chwaraewr dan sylw wedi cael prawf negyddol ddydd Llun ond un positif ddydd Gwener.
Ond does dim cysylltiad, meddai, rhwng yr achos diweddaraf a phrawf positif aelod o staff yr wythnos ddiwethaf – prawf a allai fod wedi bod yn un “positif ffals” oedd wedi gweld dau chwaraewr arall, Adam Idah ac Aaron Connolly, yn cael eu rhyddhau o’r garfan.
Mae pedwar chwaraewr arall – David McGoldrick, Seamus Coleman, Harry Arter a Darragh Lenihan – i gyd allan ag anafiadau.