Mae’r Cymro Elfyn Evans yn dal ar frig Pencampwriaeth Ralio’r Byd ar ôl rali Sardegna, ond mae ei fantais ar y brig wedi’i chwtogi bellach i 14 o bwyntiau.

Roedd e ar y blaen i’r Ffrancwr Sébastien Ogier o 18 pwynt cyn y rali ddiweddaraf yn chweched rownd y bencampwriaeth.

Tra bod gan y Cymro Cymraeg o Ddolgellau 111 o bwyntiau, mae gan Ogier 97, Thierry Neuville 87, Ott Tänak 83 a Kalle Rovanperä 70.

Y Sbaenwr Dani Sordo enillodd y rali, tra bod Evans wedi gorffen yn bedwerydd y tu ôl i Neuville ac Ogier, tra bod Tänak yn chweched.