Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud ei bod hi’n “teimlo’n llawer mwy diogel” yn gwylio gêm bêl-droed yn y Bala nag y mae hi wrth fynd i San Steffan.

Fe wnaeth hi’r sylwadau mewn cyfweliad â Sgorio wrth wylio’r Bala’n curo Aberystwyth o 5-2 ar Faes Tegid.

Dydy torfeydd ddim yn cael mynd i gemau ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws, ond mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd ymhlith y rhai sy’n galw am groesawu torfeydd yn ôl.

Ac mae’n dweud mai ei hymweliad ddoe oedd y tro cyntaf iddi gael cymryd ei thymheredd, er ei bod hi’n teithio’n ôl ac ymlaen i San Steffan.

“Ces i ‘ngwâdd yma gan glwb Y Bala i weld yr amodau maen nhw’n rhoi yn eu lle,” meddai.

“Yn eitha’ eironig, i rywun sy’n mynd lawr i San Steffan fel ag yr ydw i, y penwsnos yma a fan hyn ydi’r tro cynta’ i fi gael cymryd ‘y nhymeredd.

“Mae’n teimlo’n llawer mwy diogel, fawr mwy o drefn fan hyn nag mae o’n teimlo yn San Steffan.

“Yr un pryd, ro’n i’n gweld fod pobol yn gwylio tu allan o dan y coed.”

Cael mynd i’r dafarn, ond nid gemau awyr agored

Yn y cyfweliad, cyfeiriodd hi at y rheolau sy’n galluogi pobol i fynd i’r dafarn ac i ymgynnull mewn grwpiau o hyd at 30 o bobol, ond nad oes modd ymgynnull ar gyfer gemau awyr agored er bod manteision o wneud hynny i’r iechyd.

“Wrth gwrs mae o’n taro rhywun, ar y naill law mae gennon ni bobol yn gwylio gemau mewn tafarn yn rhywle, rhyw reol o 30 yn fan’na, ond ychydig iawn o bobol geith ddod i fan hyn,” meddai.

“Y negeseuon dw i’n clywed gan feddygon ydi pa mor bwysig ydi o fod pobol allan yn yr awyr iach, a bod pobol yn ymddiddori mewn chwaraeon.”

Dyfodol clybiau Cymru

Mae hi hefyd yn dweud y byddai croesawu torfeydd yn ôl yn lleddfu rywfaint ar ofnau clybiau am eu dyfodol.

Daw’r sylwadau hyn wrth i ddeiseb yn galw am roi’r hawl i dorfeydd ddychwelyd i gemau ddenu bron i 200,000 o lofnodion.

Dywed y ddeiseb fod “pêl-droed yn arf bwerus sy’n cynnig ystod o fuddiannau gan gynnwys cyflogaeth ac agweddau pwysig eraill ar fywyd”, gan gynnwys helpu’r economi a chreu “angerdd, emosiwn, cyffro ac ymroddiad yn y gymuned”.

“Oherwydd y materion ar hyn o bryd yn ymwneud â COVID, mae llefydd fel Ffrainc a’r Almaen bellach yn galluogi canran o gefnogwyr i ddychwelyd i gemau pêl-droed,” meddai Ashley Greenwood, awdur y ddeiseb.

“Dw i’n gofyn am gefnogaeth i’r ddeiseb hon oherwydd dw i’n ofni y bydd clybiau yn enwedig yn mynd allan o fusnes gan arwain at effaith ddinistriol ar bobol.

“Bwriad y ddeiseb hon yw gofyn i’r llywodraeth ailystyried eu penderfyniad i beidio â gadael i gefnogwyr pêl-droed ddychwelyd i gaeau ac ailystyried gwneud hyn gyda’r mesurau diogelwch cywir yn eu lle o ran COVID-19.”

Mae’n rhaid i Lywodraeth Prydain ymateb i ddeiseb sy’n denu 100,000 o lofnodion.

‘Gwneud synnwyr’

“A dyfodol y clybiau yma gyda Chynghrair Cymru efallai yn y fantol, mae’r pethau yma’n bwysig i’r dyfodol ac maen nhw’n bwysig i iechyd pobol rwan hyn,” meddai Liz Saville Roberts.

“Wel, rydan ni allan yn yr awyr iach, mi fydda fo’n gwneud synnwyr, dw i’n clywed o ddadleuon, i gael pobol yma dan y fath reolau.

“Ac os ydi o’n effeithio ac yn helpu dyfodol y clybiau yma, gorau oll i bawb.

“Dan ni’n sôn am iechyd meddwl a Diwrnod Iechyd Meddwl, ac mae pobol angen dod at ei gilydd.

“Fedrwn ni ddim byw ar ein sgriniau drwy’r amser.

“Oes, mae’n rhaid i ni ymbellháu ond os mai dyma’r gorau ydan ni’n gallu gwneud ar hyn o bryd, dw i’n meddwl mae’n well bo ni allan gyda’n gilydd na bo ni jyst yn byw hyd braich trwy’n teledu.”