Mae Dilys Price o Gaerdydd, plymiwr awyr benywaidd unigol hyna’r byd wedi marw’n 88 oed.
Roedd hi’n 80 oed pan dorrodd hi’r record yn 2013.
Ar ôl plymio ar ei phen ei hun am y tro cyntaf yn 54 oed, aeth hi yn ei blaen i neidio ar ei phen ei hun 1,139 o weithiau wedyn, a hynny ym mhob cwr o’r byd.
Roed ganddi gefndir ym myd dawns, ac aeth hi yn ei blaen i sefydlu ymddiriedolaeth Touch, sy’n rhoi cyfleoedd creadigol i bobol ag anableddau dysgu a grwpiau bregus eraill yn y gymdeithas.
Derbyniodd hi OBE yn 2003 am ei gwaith elusennol a’i hymroddiad i phobol ag anghenion arbennig, a chafodd ei gwobrwyo yn 2017 gan y Pride of Britain Awards.
Teyrngedau
Dywed ei nai Mark James Parry iddi “gyffwrdd nifer â’i phersonoliaeth anhygoel” a’i bod hi wedi “byw bywyd i’r eithaf”.
Roedd hi’n “ysbrydoliaeth i bawb”, meddai.
Yn ôl Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, lle’r oedd hi’n Gymrawd Er Anrhydedd, roedd hi’n “rym tros ddaioni”.
“Rydym yn drist o glywed am golli Dilys Price,” meddai’r brifysgol.
“Yn Gymrawd Er Anrhydedd ac yn ffrind gwirioneddol i’r brifysgol, roedd Dilys yn rym tros ddaioni ac yn ysbrydoliaeth i ni gyd.
“Rydym yn anfon ein cydymdeimlad i’r teulu.”