Fe wnaeth 14 dyn Ulster guro’r Gweilch neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 10) ar ôl i’r capten Iain Henderson gael ei anfon o’r cae am daro pen y cefnwr Dan Evans â’i ysgwydd.

Fe allai’r cerdyn coch olygu ei fod e’n colli gemau Iwerddon yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Hydref 24 a’r gêm hydref yn erbyn Ffrainc ar Hydref 31.

Sgoriodd Jacob Stockdale, Marcell Coetzee a John Cooney geisio, wrth i Cooney sgorio 14 o bwyntiau ei dîm yn y fuddugoliaeth o 24-12 yn Stadiwm Liberty.

Ciciodd Stephen Myler bedair cic gosb i’r Gweilch.

Fyddai cerdyn coch Henderson ddim wedi plesio Warren Gatland, hyfforddwr y Llewod, oedd yn gwylio’r gêm.