Mae’r Gleision yn ddi-guro ar ôl dwy gêm yn y PRO14 ar ôl iddyn nhw guro Connacht o 29-7 yn Rodney Parade.

Fe wnaethon nhw gipio pwynt bonws wrth sgorio pedwar cais.

Sgoriodd Hallam Amos yn yr hanner cyntaf, ond tarodd Conor Oliver yn ôl yn yr ail.

Serch hynny, roedd y Gleision yn rhy gryf, ac fe wnaeth Amos groesi am ail gais cyn i gais cosb a Kristian Dacey gau pen y mwdwl ar y gêm.