Caernarfon 1-2 Derwyddon Cefn

Daeth buddugoliaeth gyntaf y tymor i’r Derwyddon Cefn wrth iddynt deithio i Gaernarfon i wynebu’r Caneris nos Wener.

Yn yr wythnos pan bwysleisiodd cadeirydd Caernarfon, Paul Evans, nad oedd chwarae heb dorf yn gynaliadwy am lawer o amser eto, cafwyd gêm na fyddai’r cefnogwyr cartref wedi ei mwynhau ar yr Oval.

Huw eisiau gweld cefn Cefn

Os oedd rheolwr Caernarfon, Huw Griffiths, yn edrych ymlaen at herio ei gyn glwb, wnaeth hynny ddim para’n hir wrth i’r ymwelwyr fynd ar y blaen wedi dim ond pedwar munud. Iwan Cartwright yn sgorio gyda pheniad o groesiad Naim Arsan.

Roedd y cefnwr chwith dylanwadol, Arsan, yn ei chanol hi eto wrth i Cefn ddyblu eu mantais yn fuan wedyn, ei ergyd o bellter yn taro’r postyn cyn gwyro’n garedig i roi gôl ar blât i Alex Darlington.

Dawid dwylo menyn

Mae Gwlad Pwyl wedi cynhyrchu sawl gôl-geidwad da dros y blynyddoedd ond ni fydd Dawid Szczepaniak yn ymuno â’r rhestr, ar dystiolaeth y gêm hon.

Gadawodd y golwr, sydd ar fenthyg gyda’r Derwyddon o Wrecsam, ergyd wan Paulo Mendes trwy’i goesau hanner ffordd trwy’r ail hanner. Yr unig gysur i’r gŵr ifanc oedd y ffaith nad oedd yn gamgymeriad costus wrth i’w dîm ddal eu gafael ar y tri phwynt.

Mae Cefn yn aros ar waelod y tabl er gwaethaf eu buddugoliaeth gyntaf.

 

 

Met Caerdydd 1-2 Cei Connah

Cael a chael a oedd hi i Gei Connah wrth iddynt drechu Met Caerdydd ar Gampws Cyncoed brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n ymddangos am gyfnod hir fod y Myfyrwyr yn mynd i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy ond yn ôl y daeth y pencampwyr i’w chipio hi gyda dwy gôl hwyr.

Mae hi wedi bod yn ddechrau anodd i’r tymor i’r tîm o’r brifddinas ond roedd hi’n ymddangos fod pethau am newid wedi i Dylan Rees eu rhoi ar y blaen toc cyn yr egwyl.

Priestly yn ateb gweddi Morrison

Wedi hanner cyntaf siomedig, a’i dîm yn agosáu at golled gyntaf y tymor, penderfynodd Andy Morrison geisio’r hen dacteg o daflu amddiffynnwr mawr tal i fyny i’r pen arall.

Talodd ar ei ganfed wrth i Priestly Farquharson godi’n uwch na phawb i benio croesiad Daniel Davies i gefn y rhwyd ac unioni pethau gyda chwta chwarter awr yn weddill.

Parhau i greu hafoc yng nghwrt cosbi Met a wnaeth Farquharson wedi hynny ac arweiniodd ei bresenoldeb at gôl arall ddau funud o’r diwedd, Craig Curran yn sgorio i gipio’r tri phwynt.

Y “dynion” yn aros ar y brig

Mae cyfweliadau Morrison yn adloniannol a dweud y lleiaf ac mae’n werth taro golwg ar gyfryngau cymdeithasol y Nomadiaid i glywed ei sylwadau yn dilyn y gêm hon!

Nid oedd yr Albanwr yn hapus gyda rhai o “antics” y myfyrwyr ac roedd yn teimlo mai ei dîm ef, y “dynion”, a oedd yn haeddu ennill.

Beth bynnag y mae o’n ei olygu o hynny, mae ei dîm yn aros ar frig y tabl gyda chwe buddugoliaeth allan o chwech ar ddechrau’r tymor. Nos Fawrth a fydd yr her fwyaf hyd yma serch hynny wrth iddynt deithio i Neuadd y Parc i wynebu’r Seintiau, sydd hefyd wedi ennill pob gêm hyd yma.

 

 

Pen-y-bont 0-4 Y Seintiau Newydd

Daeth rhediad Pen-y-bont o dair buddugoliaeth yn olynol i ben wrth iddynt groesawu’r Seintiau Newydd i Stadiwm SDM Glass brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd blaenwyr y Seintiau, Louis Robles a Greg Draper ddwy gôl yr un wrth i’r ymwelwyr ennill yn gyfforddus yn erbyn naw dyn Pen-y-bont.

Gôls gôls gôls

Sgorio un ar hugain ac ildio dim, dyna a oedd record y Seintiau cyn y gêm hon a pharhau i sgorio’n ffri a wnaethant ynddi gyda dwy i Robles yn gynnar yn yr hanner cyntaf a dwy gan Draper ar ddechrau’r ail.

Ail Draper a phedwaredd y tîm a oedd yr uchafbwynt wrth i Adrian Cieslewicz garlamu i lawr yr asgell chwith mewn gwrthymosodiad chwim i ryddhau’r blaenwr.

Galw ar Griffiths y giaffar eto?

Efallai bod dweud i’r Seintiau guro naw dyn braidd yn gamarweiniol achos roeddynt yn ennill yn gyfforddus yn erbyn un dyn ar ddeg! Ond fe wnaeth dau o chwaraewyr y tîm cartref gael eu hanfon oddi ar y cae yn y chwarter awr olaf, Nathan Wood i ddechrau ac yna Kostya Georgievsky.

Mae’r gwaharddiadau a fydd yn dilyn yn siŵr o roi straen ar garfan Pen-y-bont a phwy a ŵyr, efallai y gwelwn Rhys Griffiths yn gwneud ymddangosiad arall dros yr wythnosau nesaf. Daeth y rheolwr deugain oed oddi ar y fainc yn y gêm ganol wythnos yn erbyn Hwlffordd.

Nid yn unig hynny, ond fe sgoriodd ddwy gôl hefyd i ymestyn ei gyfanswm yn Uwch Gynghrair Cymru i 271. Y rheolwr i ddechrau yn erbyn Derwyddon Cefn y penwythnos nesaf? Cawn weld!

 

 

Y Drenewydd 1-1 Y Barri

Gadawodd y Barri bethau’n hynod hwyr i gipio pwynt ar eu hymweliad â Pharc Latham i wynebu’r Drenewydd brynhawn Sadwrn

Roedd pethau’n mynd yn dda iawn i’r tîm cartref pan sgoriodd James Davies i’w rhoi ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner, y blaenwr yn codi’r bêl yn gelfydd dros Mike Lewis yn y gôl.

Kayne yn abl

Roedd hi’n ymddangos fod y Barri yn mynd i adael y canolbarth yn waglaw cyn i Evan Press gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan James O’Neill yn hwyr yn yr amser brifo ar ddiwedd y gêm.

Pwyntiodd David Morgan at y smotyn a chamodd Kayne McLaggon ymlaen i geisio sgorio ei hanner canfed gôl dros y clwb. Ac er i David Jones arbed y gic o’r smotyn fe rwydodd McLaggon ar yr eil gynnig wedi i’r bêl adlamu yn ôl i’w lwybr.

Mae’r pwynt yn cadw’r Barri yn drydydd.

 

 

Y Fflint 0-2 Hwlffordd

Y de a aeth â hi yn y frwydr rhwng dau newydd-ddyfodiad y Cymru Premier ar Gae’r Castell brynhawn Sadwrn.

Esgynnodd y Fflint ar ôl gorffen yn ail yng nghynghrair y gogledd y tymor diwethaf, ac felly hefyd Hwlffordd ar ôl dod yn ail yn adran y de. Ond dim ond un tîm a gafodd ail yn y gêm hon wrth i Hwlffordd gael y gorau ar y gogleddwyr.

Gwell hwyr na hwyrach

Bu rhaid aros tan y deuddeg munud olaf am unig goliau’r gêm. Sgoriodd Jack Wilson y gyntaf o groesiad Ben Fawcett cyn ennill cic o’r smotyn i greu’r ail i Danny Williams.

Yn y pen arall, roedd llechen lân i Matthew Turner ar ei ymddangosiad cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru.

 

 

Y Bala 5-2 Aberystwyth

Roedd camerâu Sgorio yn y lle iawn ar gyfer y gêm fyw nos Sadwrn wrth iddynt hwy, a Liz Saville Roberts, dystio i wledd o goliau ar Faes Tegid. Saith i gyd wrth i’r tîm cartref ennill yn gymharol gyfforddus.

Roedd Liz yno ar wahoddiad y clwb wrth i’r drafodaeth am ganiatáu cefnogwyr i’r caeau ddwysau. Roedd yr aelod seneddol lleol yn swnio’n gefnogol i’r achos wrth iddi sgwrsio gyda Dylan Ebenezer ar hanner amser, gan dynnu sylw at fanteison cymdeithasu’n gyfrifol yn yr awyr agored yn yr amgylchiadau presennol.

A gyda Maes Tegid, fel sawl cae arall yn y gynghrair, yn gweld criw bychan yn gwylio’r gemau o ochr arall y ffensys; mae’n ymddangos yn sefyllfa rwystredig na chaiff y cefnogwyr dalu i wneud hynny o fewn ffiniau’r meysydd.

Dechrau da i Aber

Aberystwyth a aeth ar y blaen gyda pheniad Marc Williams o groesiad Matthew Jones ond roedd y tîm cartref yn gyfartal wedi peniad Will Evans o gic gornel.

Roedd Alex Ramsay ar fai am gôl Aber ond gwnaeth gôl-geidwad y Bala yn iawn am hynny wrth greu ail gôl ei dîm ei hun, gôl route one go iawn. Cic hir Ramsay, peniad Will Evans, Sean Smith yn gorffen.

Wel, shwma’i yr hen ffrind

Treuliodd Chris Venables dymhorau yn ffefryn yng Nghoedlan y Parc ond dwy gôl gan y blaenwr yn erbyn ei gyn glwb a roddodd y gêm hon o afael Aberystwyth yn gynnar yn yr ail hanner.

Sgoriodd o’r smotyn yn dilyn trosedd arno gan Louis Bradford cyn penio’r llall o groesiad Lassana Mendes

Malcs yn mwydro

Rhoddodd cic o’r smotyn Steven Hewitt lygedyn o obaith i dîm Gavin Allen ond diflannodd y gobaith hwnnw gyda phumed y Bala.

Roedd brawd Gavin, Malcolm, wedi treulio wyth deg munud yn honni’n argyhoeddedig na fyddai Raul Correia yn sgorio i’r Bala, ond gyda deg munud yn weddill, dyna’n union a wnaeth y blaenwr i sicrhau’r tri phwynt i dîm Colin Caton.

Hon a oedd ei gôl gyntaf dros ei glwb newydd ac roedd hi’n un dda hefyd, peniad crefftus i’r gornel isaf o groesiad Smith.

 

Gwilym Dwyfor