Er bod Aaron Ramsey yn holliach i herio Gweriniaeth Iwerddon yfory (dydd Sul, Hydref 11), mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru Ryan Giggs yn dweud bod amheuon am bedwar aelod arall o’r garfan.

Mae David Brooks a Daniel James wedi teithio gyda’r garfan i Ddulyn, ond mae Giggs yn cyfaddef nad ydyn nhw’n “100%”.

Cael a chael fydd hi hefyd i Kieffer Moore a Chris Mepham, ar ôl i’r ddau gael eu hanafu yn y golled o 3-0 yn erbyn Lloegr yn Wembley nos Iau (Hydref 8).

Bydd Cymru’n anelu i barhau’n ddi-guro yng Nghynghrair y Cenhedloedd, yn dilyn buddugoliaethau fis diwethaf yn erbyn y Ffindir a Bwlgaria, a byddan nhw hefyd am wneud yn iawn am y siom yn Wembley.

“Rydyn ni wedi dechrau’n dda yng Nghynghrair y Cenhedloedd ac rydyn ni am barhau â hynny,” meddai Giggs.

“Mae tri phwynt yn ein rhoi ni mewn sefyllfa dda.

“Ond rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n iawn a’n bod ni’n well nag yr oedden ni yn erbyn Lloegr.

“Pan ydych chi’n cael eich curo o 3-0, mae pobol eisiau canolbwyntio ar y pethau negyddol, ond roedd llawer o bethau positif hefyd.”

Dywed Ryan Giggs fod cael Aaron Ramsey yn ôl yn iach yn hwb i’r garfan.
“Mae Aaron wedi hyfforddi drwy gydol yr wythnos gyda Juve, ac fe wnaeth e ymuno â ni yn Nulyn ddoe,” meddai.
“Mae e’n ffit i chwarae, mae e mewn cyflwr da ac mae gan Aaron rywbeth ychydig yn wahanol i’r arfer sy’n gallu datgloi amddiffynfeydd.”

Wrth drafod Chris Mepham a Kieffer Moore, dywedodd y byddai’n “rhoi cymaint o amser iddyn nhw â phosib” i wella cyn y gêm.

“Dydyn ni ddim eisiau cymryd unrhyw risg ond rydyn ni’n awyddus iddyn nhw gymryd rhan.”