Mae’r sylwebydd rygbi Andrew Cotter yn dweud ei fod e’n poeni y byddai sylwebu ar hynt a helynt ei gŵn a rhannu’r fideos ar y cyfryngau cymdeithasol wedi niweidio’i yrfa.

Roedd fideos yr Albanwr o Olive a Mabel, ei ddau Labrador, yn hynod boblogaidd yn ystod y cyfnod clo ar adeg pan nad oedd chwaraeon i’w gwylio ar y teledu yn sgil y coronafeirws.

Mae miliynau o bobol wedi gwylio’r fideos ym mhob cwr o’r byd, ac mae Cotter bellach wedi ysgrifennu llyfr am ei fywyd gyda’i ddau gi fydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y mis.

Ond mae’n cyfaddef bellach ei fod e wedi poeni na fyddai’n cael ei gymryd o ddifri fel sylwebydd yn y pen draw.

“Doedd dim syniad gyda fi y byddai’n troi allan fel yna,” meddai mewn digwyddiad ar gyfer Gŵyl Lenyddol Cheltenham.

“Ro’n i’n mynd i sylwebu ar sawl peth digon diflas fel sylwebydd chwaraeon yn sylwebu ar fywyd bob dydd oherwydd does gyda fi ddim byd arall i sylwebu arno fe.

“Fe wnes i benderfynu yn y pen draw y byddwn i’n sylwebu ar y cŵn.

“Ro’n i’n ffodus mai’r cŵn oedd e achos fe aeth hynny’n boblogaidd iawn gyda phobol ac roedden nhw’n gallu uniaethu fel perchnogion cŵn.

“Ond ro’n i’n poeni ar ôl yr ail un, Game of Bones, oherwydd roedd yn fwy fyth a dydych chi ddim eisiau bod yn jôc fel sylwebydd oherwydd mae’n rhaid i chi fynd yn ôl i’r gwaith.

“Eleni oedd haf Wimbledon, yr Open a’r Gemau Olympaidd, i fod.

“Os ydych chi’n sylwebu ar seremoni’r Gemau Olympaidd a’r cyfan mae pobol yn ei feddwl yw ’dyna’r boi sy’n gwneud y cŵn’, yna rydych chi wedi colli rhywfaint o hygrededd.

“Dydych chi ddim eisiau bod yn jôc fel sylwebydd a dyna pam ro’n i eisiau symud ymlaen a gwneud sgetsys bach a’u rhoi nhw i mewn i sefyllfaoedd dynol yn hytrach na jyst sylwebu arnyn nhw.”

Ffilm Hollywood?

Mae’r fideos wedi denu sylw un o “fawrion” Hollywood, meddai.

“Mae e’n hoff iawn o gŵn ac fe ddywedodd y byddai wrth ei fodd yn gwneud cyfres.

“Dw i ddim yn sicr y bydd hynny’n digwydd, dw i’n credu ein bod ni wedi pasio’r eiliad yna nawr.

“Bydda i’n parhau i wneud ffilmiau os galla i feddwl am syniadau.

“Os ydyn nhw’n parhau i fyw’r bywydau rhyfedd sydd ganddyn nhw, bydda i’n parhau i ffilmio.

“Maen nhw’n gwneud i fi chwerthin gymaint ag unrhyw beth arall.

“Mae popeth mor ddifrifol, mor llwm a mor ddigalon ar hyn o bryd, ac os oes gyda chi 90 eiliad o chwerthin gyda chŵn, dyna’r peth pwysicaf.”