Mae Ben Davies wedi dweud wrth golwg360 fod angen i amddiffynwyr tîm pêl-droed Cymru “ddysgu gwersi” o’r golled yn erbyn Lloegr yn Wembley nos Iau, wrth iddyn nhw herio Gweriniaeth Iwerddon yfory (dydd Sul, Hydref 11).

Camgymeriadau amddiffynnol oedd yn gyfrifol am goliau Lloegr nos Iau, wrth golli o 3-0 a hynny yn erbyn un o’r timau Lloegr lleiaf profiadol erioed.

Yn ôl Davies, mae pawb yn gwybod beth sydd angen ei wneud er mwyn osgoi ailadrodd yr un camgymeriadau yn Nulyn.

“O’dd yr hyfforddwyr wedi dweud ar ôl y gêm a’r diwrnod nesaf beth sydd angen gwneud a fi’n credu bod pawb yn gwybod beth mae angen gwneud yn y gemau nesa,” meddai.

“Cyn y gêm, bydd rhaid i ni siarad a bydd cyngor yna, ond rhaid i ni ddysgu o’r gwersi yn erbyn Lloegr.”

Capten

Gydag Aaron Ramsey yn dychwelyd ar ôl bod mewn cwarantîn gyda’i glwb Juventus, dywed y rheolwr Ryan Giggs nad yw e wedi penderfynu pwy fydd yn gapten yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Ond mae Davies yn dweud y byddai’n croesawu cyfle arall ar ôl bod yn “hynod o falch” o arwain ei wlad yn Wembley.

“Oedd e’n rhywbeth o’n i wastod eisiau gwneud ac i gael y siawns i’w wneud e yn erbyn Lloegr yn Wembley, oedd e’n deimlad grêt,” meddai.

“Os bydda i’n cael y siawns eto, bydda i’n hapus iawn i’w wneud e.”

Canmol yr Elyrch

Gyda phedwar allan o’r pum yn yr amddiffyn – Davies, Joe Rodon, Ben Cabango a Connor Roberts – wedi dod drwy rengoedd yr Elyrch, mae’r Cymro Cymraeg sydd bellach yn chwarae i Spurs yn canmol gwaith yr hyfforddwyr yn Fairwood am gynhyrchu chwaraewyr rhyngwladol.

“Mae’r Academi yn Abertawe wedi cael lot o fois sydd wedi dod trwyddo yn y blynyddoedd diwethaf, felly mae e’n grêt i weld,” meddai.