Bu’n rhaid i’r Dreigiau frwydro’n galed i sicrhau buddugoliaeth o 26-18 dros y Zebre yn y PRO14 yn Rodney Parade neithiwr (nos Wener, Hydref 10).

Sgoriodd y cefnwr Jordan Williams ddau gais, ac roedd un yr un i’r canolwr Jamie Roberts a’r bachwr Elliot Dee, a sgoriodd Sam Davies ddwy gic gosb.

Tarodd yr Eidalwyr yn ôl gyda cheisiau i’r canolwyr Federico Mori a Giulio Bisegni.

Daeth trosiad a dwy gic gosb oddi ar droed Carlo Canna.