Arweinydd Ceidwadol yr Alban, Douglas Ross, oedd un o’r dyfarnwyr cynorthwyol yn ystod gêm Lloegr yn erbyn Cymru neithiwr (Hydref 8).

Roedd hi’n noson i’w hanghofio i dîm pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw golli o 3-0 yn erbyn y tîm Lloegr lleiaf profiadol ers hanner canrif.

Ar ôl cael ei benodi’n arweinydd Ceidwadol yr Alban ym mis Gorffennaf, dywedodd Douglas Ross y byddai’n rhoi’r gorau i ddyfarnu gemau pêl-droed pe bai’n dod yn Brif Weinidog yr Alban yn etholiad Holyrood 2021.

Bu’n rhaid i Douglas Ross ymddiheuro ym mis Awst ar ôl iddo fethu coffâd Diwrnod VJ oherwydd ei fod yn lumanwr mewn gêm rhwng Kilmarnock a St Johnstone.