Roedd hi’n noson i’w hanghofio i dîm pêl-droed Cymru yn Wembley heno (nos Iau, Hydref 8), wrth iddyn nhw golli o 3-0 yn erbyn y tîm Lloegr lleiaf profiadol ers hanner canrif.

Sgoriodd Dominic Calvert-Lewin yn ei gêm gyntaf dros ei wlad wrth i’r ddau dîm arbrofi cyn y gemau yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Daeth goliau wedyn gan Conor Coady a Danny Ings i gau pen y mwdwl ar noson siomedig i dîm Ryan Giggs, ond noson lwyddiannus i dîm Gareth Southgate wrth i Jack Grealish reoli’r ymosod wrth ddechrau dros ei wlad am y tro cyntaf.

Manylion y gêm

Ar ôl teyrngedau i gyn-fawrion Lloegr fu farw’n ddiweddar, gan gynnwys Jack Charlton, Martin Peters a Norman Hunter, dechreuodd Cymru’n gryf yn y munudau agoriadol wrth i ddiffyg profiad Lloegr amlygu ei hun.

Daeth cyfle cynnar i Calvert-Lewin ond fe darodd ei ergyd heibio’r gôl cyn i Kieffer Moore gael cyfle ym mlaen y cae i Gymru ar ôl 20 munud.

Manteisiodd e ar ei ail gyfle oddi ar groesiad Grealish i roi Cymru ar y droed ôl.

Daeth ergyd bellach i Gymru pan gafodd Kieffer Moore ei anafu, ac fe ddaeth Neco Williams i’r cae yn y gobaith o ychwanegu min ar yr ymosod.

Wnaeth eilyddion Cymru fawr o wahaniaeth yn yr ail hanner wrth i’r amddiffyn chwalu ymhellach ar ôl i Ben Cabango gymryd lle Joe Rodon yn y canol yn bartner i Chris Mepham.

Enillodd Grealish gic rydd i Loegr i greu’r ail gôl, gyda Kieran Trippier y capten groesi i lwybr Coady i daro hanner foli.

Daeth Danny Ings i’r cae a sgorio chwip o gôl dros ei ben oddi ar bàs Tyrone Mings i’w gwneud hi’n 3-0.

Gallai Lloegr fod wedi’i gwneud hi’n 4-0 oni bai bod Wayne Hennessey yn effro i arbed ergyd Bukayo Saka, ac fe wnaeth y golwr yn dda i arbed ergyd hwyr gan Ings.