Mae Brandon Cooper, amddiffynnwr tîm dan 21 Cymru, yn dweud ei fod yn benderfynol o ddilyn yn ôl traed Ben Cabango a Joe Rodon a sefydlu ei le yn y nhimau Abertawe a Chymru.

Daw hyn ar ôl i’r Cymro fethu cic o’r smotyn i Gasnewydd yn erbyn Newcastle yn y Carabao Cup i sichrau buddugoliaeth enwog i’r clwb lle mae e ar fenthyg o’r Elyrch.

Ond perfformiodd yr amddiffynnwr yn wych yn ystod y gêm, gan atal Andy Carroll, Callum Wilson a Joelinton rhag sgorio.

Ac mae’n dweud na fydd yn osgoi cymryd ciciau o’r smotyn yn y dyfodol.

“Efallai bod pobol yn meddwl na ddylai amddiffynwyr gymryd ciciau o’r smotyn, ond dw i’n hyderus yn fy hun a byddwn yn cymryd un eto,” meddai.

“Mae pobol jyst yn methu weithiau.

“Dw i’n eithriadol o falch gyda’r gêm.

“Roedd yn gyflawniad enfawr i fynd â thîm o’r Uwch Gynghrair i giciau o’r smotyn.”

Mae Brandon Cooper wedi chwarae i Gasnewydd wyth o weithiau a hyd yma, dyw’r clwb ddim wedi colli yn y gynghrair, ac maen nhw ar frig tabl yr Adran Gyntaf.

Dywed iddo wneud y penderfyniad cywir i fynd allan ar fenthyg a nawr, mae’n bwriadu efelychu Ben Cabango a Joe Rodon drwy chwarae i Abertawe a Chymru.

“Dw i wedi chwarae gyda Ben a Joe am flynyddoedd ac mae Abertawe wedi cynhyrchu amddiffynwyr da,” meddai.

“Hei lwc y galla i fod y nesaf i gymryd y cam hwnnw.”