Mae clybiau pêl-droed lleol Cymru wedi galw ar Mark Drakeford i lacio’r cyfyngiadau caeth arnyn nhw sydd yn eu hatal rhag chwarae gemau cystadleuol.
Ganol mis Gorffennaf, cafodd timau pêl-droed lleol Cymru ganiatâd i ailgychwyn eu sesiynau hyfforddi.
Ers hynny, mae nifer o glybiau o dan haen un yn dadlau nad oes unrhyw gamau gwirioneddol wedi eu cymryd i ddatblygu’r sefyllfa.
At hynny, mae’n debyg bod diffyg deialog rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r clybiau wedi arwain at aflonyddwch, gyda rhai yn cwestiynu a fydd modd ailgychwyn y gynghrair y tymor hwn o gwbl.
Mewn dogfen ar eu gwefan, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi amlinellu hawl clybiau pêl-droed i chwarae gemau cyfeillgar gydag aelodau o’u clybiau eu hunain yn unig o ddydd Llun (Hydref 5).
Mae bwriad i ehangu ar y canllawiau hyn ac i alluogi timau o fewn yr un gynghrair neu awdurdod lleol i chwarae gemau cyfeillgar o ganol y mis (Hydref 19).
Mae’r datblygiad hwn yn seiliedig ar yr amod fod Llywodraeth Cymru yn diddymu’r uchafswm o 30 person yn unig yn yr awyr agored.
Yn dilyn y cynnydd diweddar mewn achosion o’r coronafeirws yng Nghrymu, mae rhai yn cwestiynu pa mor debygol yw hi y bydd y prif weinidog yn llacio unrhyw gyfyngiadau dros yr wythnosau nesaf.
Cymharu’r sefyllfa â chlybiau Lloegr
Yn y cyfamser, rhoddodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ganiatâd i dimau pêl-droed lleol ailgychwyn chwarae gemau cystadleuol ym mis Medi, ar yr amod eu bod yn dilyn canllawiau iechyd a diogelwch penodedig.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Prydain bellach yn caniatáu gwylio gemau pêl-droed yr Uwch Gynghrair mewn sinemâu myglyd dan do.
Mae hynny wedi arwain at gwestiynu pam nad yw timau pêl-droed Cymru, sydd gan amlaf yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr gweithgar o fewn y gymuned, yn cael eu blaenoriaethu.
“Does dim pwynt cuddiad y ffaith mae’n bosib na fydd modd i ni chwarae eleni o gwbl ac mae hynny yn rhywbeth sy’n rhwystredig, yn enwedig i’r bechgyn ifanc sydd eisiau chwarae,” meddai Amlyn Ifans, hyfforddwr Clwb Pêl-droed Bow Street yn Aberystwyth wrth ymateb i’r sefyllfa.
Clybiau Pêl-droed Nantlle Vale ac Aberystwyth
Yn ôl Daniel Bell, rheolwr tîm cyntaf Clwb Pêl-droed Nantlle Vale, mae’r sefyllfa yn “dorcalonnus”.
“Ar hyn o bryd, dwi’n cydnabod bod ‘na risg hefo bob dim ’dan ni’n ei wneud ond mae’n anodd peidio cymharu’r lefelau risg,” eglura Daniel Bell.
“Dwi’n rhoi fy hun o dan fwy o risg wrth fynd i fy ngwaith bob dydd na fyswn i yn yr awyr agored am ddwy awr ar brynhawn dydd Sadwrn.”
Mae’n dweud bod gwaith sylweddol wedi ei wneud ar gyfleusterau’r clwb yn ystod y cyfnod clo, a bod bwrlwm wedi’i greu yn sgil hynny.
Bellach, dywed fod morâl ymhlith y rheolwyr, chwaraewyr ac aelodau pwyllgor yn isel, gan nad oes ganddyn nhw unrhyw nod i anelu tuag ati.
Mae’n ymddangos nad clybiau bychain yn unig sydd yn dioddef.
Yn wir, mewn datganiad ar wefan Clwb Pêl-droed Aberystwyth yn ddiweddar, rhybuddiodd y Cadeirydd Donald Kane heb gymorth ariannol ar frys gan Lywodraeth Cymru na fydd modd i rai o glybiau Uwch Gynghrair Cymru allu sicrhau eu dyfodol hyd at y Nadolig, heb sôn am ddiwedd y tymor.
Rhybuddia Amlyn Ifans y bydd hynny’n cael effaith negyddol ar glybiau fel Bow Street sydd yn is yn y pyramid.
Goblygiadau iechyd meddwl
Mewn cymdeithas lle mae cymaint o bwyslais yn cael ei roi ar ofalu am les iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith dynion ifanc, dylid cwestiynu beth yw effaith y gwaharddiad hwn ar les rheolwyr, chwaraewyr a phawb sydd yn gysylltiedig â’r clybiau hyn.
“Mae cael chwarae gemau pêl-droed yn rhyddhad ar y penwythnos i’r hogiau. Maen nhw’n cael mynd allan o’r tŷ ar ôl wythnos galed yn y gwaith. Mae o’n helpu gymaint i dynnu pwysau oddi ar eu ‘sgwyddau nhw.” Dywed Daniel.
Esbonia fod mwy na dim ond 90 munud ar y cae yn cael ei golli, gan gynnwys yr elfennau cymdeithasol o bêl-droed a’r cyfeillgarwch sy’n deillio o hynny.
Ymateb Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru i’r sefyllfa
“Dwi’n cymryd bod na thrafodaethau’n digwydd rhwng y Llywodraeth a’r FA ond dyda ni fel clybiau ddim yn cael dim updates, dim byd.” eglurai, “mae’r hogiau’n holi drwy’r adeg, lle ‘dani arni hefo gemau? A does gen i ddim ateb iddyn nhw,” meddai Daniel Bell wrth ymateb i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru.
Esbonia y byddai’n dda i’r undeb gymryd rheolaeth dros y sefyllfa, hyd yn oed os yw hynny’n golygu gohirio’r gynghrair hyd at ddechrau’r flwyddyn nesaf neu gymryd y cam o ganslo’r tymor hwn yn gyfan gwbl ac ystyried ffyrdd eraill o alluogi gemau cystadleuol i gael eu chwarae.
“Er fysa ni ddim yn chwarae am promotions na trophies, drwy chwarae mini leagues, o’leia fysa ni’n cael chwarae ffwtbol, a dyna sy’n bwysig i ni”.
Mae Amlyn Ifans yn cytuno.
“Mi yda ni wedi siarad gyda’r Undeb Bêl-droed a’r farn ‘dani wedi ei roi ydi, pam na newch chi ddod dweud bydd ‘na ddim pêl-droed tan Ionawr a dyna ni, yn lle ein bod yn hanner gobeithio efallai cawn chwarae ym mis Rhagfyr. Mae’n debyg eu bod yn gyndyn iawn wneud hynny,” meddai.