Mae adroddiadau bod achosion o’r coronafeirws ym mhob un o brifysgolion Cymru, a rhai myfyrwyr yn gorfod hunanynysu yn eu neuaddau preswyl.
Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau ddoe (Hydref 8) y bydd canolfannau profi coronafeirws lleol yn agor ger safleoedd rhai o brifysgolion Cymru.
Bydd rhagor o ganolfannau profi lleol yn agor mis yma yn Abertawe, Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth.
“Wrth i fyfyrwyr prifysgol ddychwelyd i ddinasoedd a threfi ledled Cymru, rydym am sicrhau bod profion cadarn ar waith ar gyfer myfyrwyr a thrigolion lleol,” meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru.
“Rwy’n falch y bydd y safleoedd profi lleol yn rhoi sicrwydd ychwanegol i’r rhai sy’n dychwelyd neu’n dechrau yn y brifysgol.”
Ychwanegodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ei bod hi’n “bwysig bod unrhyw un sy’n dangos symptomau’r coronafeirws yn cael prawf i sicrhau ein bod yn atal y feirws rhag lledaenu”.
Prifysgol Aberystwyth
Mae golwg360 yn deall bod “llawr cyfan” o fyfyrwyr yn Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hunanynysu, am eu bod nhw wedi bod mewn cyswllt gyda pherson sydd wedi profi’n bositif.
Er i Brifysgol Aberystwyth atal dysgu wyneb yn wyneb yr wythnos ddiwethaf, mae dysgu cyfunol bellach wedi ailddechrau yno.
Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi gwybod fod 32 o achosion o’r coronafeirws yn y brifysgol, a’u bod i gyd yn gysylltiedig â pharti mewn tŷ.
Mae’r brifysgol hefyd wedi rhybuddio myfyrwyr y gallen nhw golli eu lle ar eu cyrsiau pe baen nhw’n cael eu dal yn torri rheolau Covid-19.
Mae chwe aelod o staff hefyd wedi profi’n bositif am Covid-19 ers i’r tymor ddechrau.
Prifysgol Bangor
Er nad oedd modd i’r brifysgol gadarnhau faint o achosion sydd o fewn y gymuned o fyfyrwyr, cadarnhaodd llefarydd fod achosion ymysg myfyrwyr sydd yn byw ar y campws.
“Mae Covid 19 bellach yn bresennol ymysg ein myfyrwyr, rhai yn fyfyrwyr sy’n preswylio ar y campws,” meddai wrth golwg360.
Yn ôl Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, mae Llywodraeth Cymru “wrthi’n ystyried” a oes angen cyflwyno cyfyngiadau llymach ym Mangor.
Prifysgol Caerdydd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cadarnhau yr wythnos hon fod dros 130 o fyfyrwyr wedi profi’n bositif am Covid-19 a bod y ffigwr hwnnw yn “debygol o fod yn uwch”.
Prifysgol Caerdydd yw’r unig brifysgol yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaeth profi poer mewnol gwirfoddol, ac mae gofyn i’r holl fyfyrwyr a staff gael eu profi.
Prifysgol De Cymru
Mae gan Brifysgol De Cymru gampysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd.
Ym mis Medi, agorodd y ganolfan brofi lleol gyntaf ym Mhontypridd ger y brifysgol.
Mae wyth achos wedi eu cadarnhau ymhlith myfyrwyr y brifysgol.
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae tri achos wedi eu cadarnhau ymhlith myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Prifysgol y Drindod Dewi Sant
Mae gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant gampysau yng Nghaerfyrddin, Llanbed, Abertawe a Chaerdydd.
“Nid oes gan y Brifysgol ei chyfleusterau profi ei hun ac ni fydd safleoedd profi yn cael eu lleoli ar ein campysau”, meddai llefarydd ar ran Prifysgol y Drindod Dewi Sant wrth golwg360.
“Fodd bynnag, mae’r Brifysgol yn gweithio’n agos gyda’r GIG ac Awdurdodau Lleol.
“Fel rhan o gynllun Ymateb ac Adfer y Brifysgol rydym wedi cychwyn proses i staff a myfyrwyr gofnodi symptomau coronafeirws a amheuir neu a gadarnhawyd.
“Trwy’r broses hon rydym wedi nodi, hyd at ddydd Iau, Hydref 8 , fod pedwar aelod o staff a phump myfyriwr wedi profi’n bositif am Covid-19 ar draws campysau’r Brifysgol yng Nghymru.”
“Ni allwn gadarnhau unrhyw fanylion eraill am resymau cyfrinachedd.”
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Mae tri achos wedi eu cadarnhau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.