Mae yna “ofn go iawn” yn Llundain y bydd cenedlaetholwyr yn elwa os bydd gweinidogion yn “parhau i wrthod cais” gan Lywodraeth Cymru.
Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi galw am rwystro pobol yn Lloegr – mewn ardaloedd sydd dan glo – rhag teithio i Gymru, ac mae Boris Johnson wedi gwrthod hynny.
Er bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi gwrthod y posibiliad yn ddigon cadarn, mae darn diweddar gan The Spectator yn awgrymu bod yna ansicrwydd ymhlith ei rengoedd.
“Mae Johnson wedi gwrthod y syniad, ond os yw’r Cymry yn dal ati i wthio, efallai bydd Llywodraeth y DU yn teimlo rheidrwydd i adael iddyn nhw gael eu ffordd eu hunain,” meddai’r darn.
“Mae un o’r rheiny sydd ynghlwm â thrafodaethau llywodraeth ar y mater yn dweud wrtha’ i fod yna bryder go iawn ynghylch goblygiadau gwrthod y cais.
“Dw i wedi cael gwybod bod yna ofn go iawn yn Whitehall ynghylch beth fyddai’r cam yn gwneud i’r mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru a’r Alban.”
Y sefyllfa
Yn siarad ar ddechrau’r wythnos dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn ystyried gorfodi cwarantin ar ymwelwyr â Chymru – sydd wedi dod o le arall yn y DU â nifer uchel o achosion.
Ar hyn o bryd mae modd i bobol yn Lloegr – o ardaloedd dan glo – fynd ar wyliau i rannau o Gymru sydd ddim dan gyfyngiadau llym.
“Dw i ddim eisiau gorfodi cyfyngiadau teithio o fewn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol,” meddai Boris Johnson wrth y BBC, pan wrthododd gais Mark Drakeford.
“Rydym ni’n un wlad. Dylai pobol ddefnyddio synnwyr cyffredin. Dylen nhw ddilyn y canllawiau. A dyna rydym ni’n mynd i’w wneud.”