Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y gallai fod cyswllt rhwng y cynnydd mewn diweithdra yng Nghymru oherwydd y coronafeirws a’r cynnydd mewn pobol â salwch hirsefydlog.
Gwelwyd cynnydd o 3.2% yn niweithdra yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o 3.8% yn 2019 i tua 7% yn 2020.
Mae rhagamcanion yr adroddiad yn nodi y gallai cyfran y boblogaeth sy’n dioddef o rhyw fath o salwch hirsefydlog gynyddu tua 4% dros y tair blynedd nesaf, o 46.4% cyn y pandemig i 50.3% yn 2022/23.
Ymhellach, mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai cyfran y boblogaeth sy’n dioddef o salwch hirsefydlog cyfyngol – cyflwr sy’n cyfyngu ar weithgareddau person o ddydd i ddydd – gynyddu o 18.1% i 24.4% dros y tair blynedd nesaf.
Mae’r adroddiad yn trafod effaith economaidd pandemig y coronafeirws ar gyflyrau iechyd a’r defnydd o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
900,000 yn fwy yn datblygu cyflyrau cronig
Eglurodd Rajendra Kadel, Economegydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdur yr adroddiad, y gallai’r coronafeirws arwain at 900,000 yn fwy o bobol o oedran gweithio yn y Deyrnas Unedig yn datblygu cyflyrau iechyd cronig oherwydd llai o gyflogaeth.
“Gall gostyngiad o 1% mewn cyflogaeth o ran pobol o oedran gweithio fod yn gysylltiedig â chynnydd o tua 2% mewn cyflyrau iechyd cronig”, meddai.
“Yn ôl ein rhagolwg, gallai’r cynnydd yng nghanran yr oedolion â salwch hirsefydlog cyfyngol fod yn fwy, o gymharu ag oedolion ag unrhyw salwch hirsefydlog, gan awgrymu goblygiadau o ran iechyd a chynhyrchiant y boblogaeth, yn ogystal â phwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.’’
Gallai anhwylderau endocrinaidd a metabolig gynyddu o 7.9% i 10.9%; a phroblemau iechyd meddwl o 8.8% i 11.9%.