Mae 3 yn rhagor o farwolaethau wedi eu cofnodi yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg sy’n gysylltiedig ag achosion o’r coronafeirws.
Adroddwyd ddoe (Hydref 7) fod 21 o farwolaethau yn gysylltiedig ag achosion o’r coronafeirws yn yr ysbyty, a chadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg heddiw fod y cyfanswm sydd wedi marw yn yr ysbyty yn Llantrisant bellach yn 24.
Dywedodd y bwrdd iechyd hefyd fod dau achos arall wedi’u cofnodi yn yr ysbyty yn Llantrisant gan fynd â chyfanswm yr achosion i 129.
Mae llawdriniaethau, ac eithrio nifer fach o achosion brys o ganser, eisoes wedi’u hatal tra bod derbyniadau brys i oedolion a chleifion ambiwlans yn cael eu dargyfeirio i ysbytai eraill.
Covid-19 yn fwy angheuol na’r ffliw a niwmonia gyda’i gilydd
Mae ystadegau diweddar yn awgrymu bod Covid-19 bellach yn fwy angheuol na’r ffliw a niwmonia gyda’i gilydd.
Bob blwyddyn ers i gofnodion marwolaethau misol Cymru a Lloegr ddechrau ym 1959, bu llai o farwolaethau oherwydd ffliw a niwmonia rhwng mis Ionawr ac Awst nag a fu o farwolaethau oherwydd Covid-19 hyd yma eleni.
Yn ôl Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd mwy na theirgwaith cymaint o farwolaethau oherwydd Covid-19 o gymharu â ffliw a niwmonia yn wyth mis cyntaf y flwyddyn.
Rhwng mis Ionawr ac Awst eleni roedd 48,168 o farwolaethau oherwydd Covid-19, o’i gymharu â 13,619 o farwolaethau oherwydd niwmonia, a 394 o farwolaethau oherwydd ffliw.