Dyma’r ffigurau diweddaraf ar gyfer y ‘gyfradd saith diwrnod’ o achosion Covid-19 newydd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 5 Hydref, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a phrofion a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y tri diwrnod diwethaf (Hydref 6-8) wedi’i hepgor gan ei fod yn anghyflawn ac yn debygol o gael ei ddiwygio.

Mae’r rhestr yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 8 Hydref.

O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr yn darllen: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 5 Hydref; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 5 Hydref; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 28 Medi; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 28 Medi.

Merthyr Tudful 223.8 (135), 218.8 (132)

Rhondda Cynon Taf 176.6 (426), 185.3 (447)

Sir y Fflint 144.1 (225), 56.4 (88)

Abertawe 133.6 (330), 99.6 (246)

Wrecsam 132.4 (180), 60.3 (82)

Pen-y-bont ar Ogwr 131.2 (193), 114.9 (169)

Caerdydd 120.7 (443), 103.0 (378)

Sir Ddinbych 101.4 (97), 46.0 (44)

Castell-nedd Port Talbot 98.4 (141), 57.9 (83)

Blaenau Gwent 83.0 (58), 261.9 (183)

Gwynedd 82.7 (103), 16.1 (20)

Conwy 63.1 (74), 53.8 (63)

Caerffili 60.2 (109), 53.0 (96)

Torfaen 58.5 (55), 57.5 (54)

Bro Morgannwg 56.9 (76), 48.7 (65)

Sir Gaerfyrddin 53.5 (101), 69.4 (131)

Casnewydd 45.3 (70), 62.7 (97)

Ceredigion 44.0 (32), 27.5 (20)

Powys 31.0 (41), 23.4 (31)

Sir Fynwy 30.7 (29), 23.3 (22)

Sir Benfro 23.0 (29), 10.3 (13)

Ynys Môn 21.4 (15), 14.3 (10)