Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd bron i 1,300 o’i swyddi yn mynd wrth i’r sefydliad geisio arbed £100 miliwn o’i gost flynyddol yn sgil pandemig y coronaferiws.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth ei bod yn gwneud 514 o ddiswyddiadau gorfodol, tra bod 782 o bobol wedi cymryd diswyddiad gwirfoddol.

Mae pandemig y coronaferiws wedi effeithio bron pob agwedd o incwm yr elusen gadwraeth a threftadaeth, sydd â 5.6 miliwn o aelodau, wrth iddi orfod cau safleoedd hanesyddol, gerddi, meysydd parcio, siopau a stopio gwyliau a digwyddiadau.

Daw ffigyrau heddiw ar ben yr 162 o bobol sydd eisoes wedi cael gwybod eu bod yn colli eu swyddi, gan ddod a chyfanswm colledion swyddi ers dechrau’r pandemig i 1,458.

“Cyfnod poenus”

Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Hilary McGrady wedi diolch i staff, gwirfoddolwyr ac aelodau.

“Mae hwn yn gyfnod poenus i gymaint o sefydliadau, busnesau a chymunedau,” meddai.

“Byddwn yn gwneud popeth allwn ni i gefnogi’r rheini sy’n gadael, ac eraill sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau sylweddol hyn.”

Cadw gymaint o leoliadau ac sy’n bosib yn agored

Dywedodd Hilary McGrady y bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn parhau i gadw cymaint o leoliadau â phosib yn agored tra bod cyfyngiadau’r Llywodraeth yn dal i fod mewn grym.

“Mae angen y llefydd mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt nawr fwy nag erioed, a byddant yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth i’n gwlad adfer.

“Mae’n rhaid i ni ffocysu ar ddod allan i’r argyfwng hwn mewn safle cryf.”

Rhybuddio am golli rhagor o swyddi

Mae Gweinidog Diwylliant Cysgodol Llafur yn San Steffan, Jo Stevens, wedi rhybuddio y bydd rhagor o swyddi’n cael eu colli “os nad yw’r Llywodraeth yn gweithredu.”

“Mae hyn yn newyddion trychinebus i staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gwneud gwaith mor bwysig wrth ein cysylltu gyda’n treftadaeth.

“Byddwn yn parhau i weld swyddi’n mynd os nad yw’r Llywodraeth yn gweithredu.”