Mae yna “lefel uchel o bryder” ymhlith pysgotwyr Cymru ar hyn o bryd, yn ôl un o ffigyrau blaenaf y diwydiant.
Yn siarad gerbron un o bwyllgorau’r Senedd mi wnaeth Jim Evans, Cadeirydd Cymdeithas Pysgotwyr Cymru, gynnig darlun llwm o sefyllfa’r sector.
Gyda’r cyfnod pontio Brexit yn dod i ben yn fuan, ac yn sgil misoedd o gyfyngiadau oherwydd yr argyfwng coronafeirws, dywedodd bod cymysgedd o bethau wrth wraidd y teimladau cryfion.
“Mae ‘ansicrwydd’ yn air cyffredin [o fewn ein diwydiant],” meddai. “Rydym wedi teimlo ‘rhwystredigaeth’ ers blynyddoedd. Mae gennym lefel uchel o ‘bryder’.
“Rheina yw’r tri gair buaswn i’n defnyddio i ddisgrifio’r teimlad yn y diwydiant ar hyn o bryd. Ac mae pob math o bethau yn gysylltiedig â hynny – nid jest covid, ac nid dim ond masnach UE.
“Ond mae’n rhaid i mi ddweud … mae covid ymhlith un o’r ffactorau mwyaf heriol dw i wedi dod ar ei draws,” meddai wedyn.
Sefyllfa “ddifrifol wael”
Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, rhoddodd Jim Evans ddarlun o brofiad 2021 pysgotwyr Cymru hyd yma.
Ar ddechrau’r flwyddyn “doedd neb yn medru cynnal eu bywoliaeth” yng nghanol y tywydd garw a fu, meddai, ac o fis Mawrth “mi fethodd y marchnadoedd”.
Gyda’r sector mewn sefyllfa “difrifol wael” daeth y Grant Cefnogi Pysgodfeydd gan achub y dydd, yn ôl y Cadeirydd. Er hynny, eglurodd bod pysgotwyr yn gofidio am y gaeaf.
Canolbwyntio ar “oroesi”
“Y gwirionedd yw ein bod ni heb gael [haf traddodiadol] i allu paratoi at aeaf llai sicr a sefydlog. Yn amlwg dyw hynny ddim wedi digwydd.
“Mae’r diwydiant croeso wedi dod i ben mwy neu lai, ac mae rhagor o gyfyngiadau lleol a chenedlaethol wedi’u cyflwyno – mae hynny hefyd yn effeithio ar linellau cyflenwi.
“Mae gweithgarwch wedi lleihau yn ddramatig. Ac rydym yn paratoi ein hunain am y sioc economaidd nesa.”
Ategodd bod “y rhan fwyaf o bobol” eisoes yn canolbwyntio ar “oroesi”.