Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi ychwanegu at y ei dîm o weinidogion iechyd drwy benodi Eluned Morgan yn Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg.

Bydd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ymateb i’r coronafeirws a pherfformiad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o hyn ymlaen.

Ymysg cyfrifoldebau newydd Eluned Morgan mae: gwasanaethau iechyd meddwl, dementia, awtistiaeth, camddefnyddio sylweddau, iechyd cyn-filwyr, profiad y claf a’r strategaeth ordewdra.

Bydd Julie Morgan yn parhau yn ei rôl fel y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, tra bod maes cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys y rhaglen Cymru ac Affrica, yn dod yn rhan o gyfrifoldebau’r Prif Weinidog.

“Misoedd anodd o’n blaenau”

“Rydyn ni wedi dysgu llawer o’r don gyntaf o’r coronafeirws a’r ffordd rydyn ni a’r gwasanaethau cyhoeddus wedi ymateb i’r feirws,” meddai Mark Drakeford.

“Unwaith eto, rydyn ni’n wynebu cynnydd yn nifer yr achosion ledled y wlad ac mae misoedd anodd o’n blaenau ni.

“Mae’r newidiadau rydw i’n eu gwneud i’m tîm yn y Cabinet yn golygu y bydd Vaughan yn gallu neilltuo ei holl amser ac ymdrech i’r coronafeirws a sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn gallu trin pobl sydd â’r feirws yn ogystal ag ymateb i anghenion iechyd ehangach y boblogaeth.

“Mae gan Eluned hanes llwyddiannus o weithio mewn llywodraeth a bydd yn dod â’r holl brofiad hwnnw gyda hi i ddiogelu a hybu llesiant ehangach pobl yng Nghymru.”