Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i broblemau cyflenwi cwmni fferyllol Roche.

Roche yw prif gyflenwr nifer o’r pecynnau profi a ddefnyddir mewn meddygaeth labordy yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys profion biocemeg, profion imiwnohistocemeg a phrofion COVID-19.

Ddydd Mawrth, dywedodd Roche ei fod wedi profi “gostyngiad sylweddol iawn” yn ei gapasiti prosesu oherwydd problem dechnegol gyda’i ganolfan ddosbarthu yn Sussex, ei hunig ganolfan ym Mhrydain. Deellir bod y broblem wedi’i hachosi wrth symud i warws awtomataidd newydd ym mis Medi.

Mae hyn wedi arwain at broblemau o ran cyflenwi deunyddiau a ddefnyddir mewn profion labordy a diagnostig gan gynnwys cemegion, pecynnau sgrinio a swabiau.

Arweiniodd hyn at bryderon ynghylch cyflenwi deunyddiau labordy ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys profion Covid-19.

Mae galwad bellach wedi’i chynnal rhwng swyddogion iechyd ledled y Deyrnas Unedig a chynrychiolwyr Roche, a chafwyd cadarnhad fod Roche yn cael problemau logistaidd a thechnegol yn sgil adleoli eu prif ganolfan ddosbarthu.

Mae hyn yn golygu nad yw Roche wedi gallu ateb y galw am gyflenwadau, ac felly bod archebion yn cronni – a rhybuddiodd y cwmni ei gwsmeriaid efallai na fyddai’r materion yn cael eu datrys am ddwy neu dair wythnos.

“Blaenoriaeth i raglen brofi Covid a’r Gwasanaethau Gwaed”

Fodd bynnag, yn ddiweddarach, dywedodd y cwmni y dylid gweld “gwelliannau sylweddol erbyn y penwythnos” – gan bwysleisio nad yw’r trafferthion wedi effeithio ar y cyflenwad o brofion Covid-19 ac na fydd yn effeithio arno.

Mewn datganiad i Aelodau’r Senedd, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AoS:

“Mae Roche wedi cadarnhau bod ganddynt gynllun adfer ar waith i sicrhau bod yr effaith ar y GIG ledled y Deyrnas Unedig yn cael ei rheoli a’i lleihau cyn belled ag y bo modd.

“Yn benodol, mae Roche wedi rhoi sicrwydd y bydd rhaglen brofi Covid a’r Gwasanaethau Gwaed yn cael blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod ganddynt ddigon o gyflenwadau i gynnal eu gwaith yn llawn.

“Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda’u cymheiriaid ledled y DU a chyda Roche hyd nes y caiff y mater hwn ei ddatrys.

“Rwyf wedi gofyn i swyddogion roi ymateb cenedlaethol ar waith mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn GIG Cymru i sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosibl ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.”