“Roedd y gôl gyntaf wedi cymryd lot o’r gêm i ffwrdd” oddi wrth dîm pêl-droed Cymru yn erbyn Lloegr yn Wembley neithiwr (nos Iau, Hydref 8), yn ôl y capten Ben Davies.

Sgoriodd Dominic Calvert-Lewin yn ei gêm gyntaf dros ei wlad wrth i’r ddau dîm arbrofi cyn y gemau yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Daeth goliau wedyn gan Conor Coady a Danny Ings i gau pen y mwdwl ar noson siomedig i dîm Ryan Giggs, ond noson lwyddiannus i dîm Gareth Southgate wrth i Jack Grealish reoli’r ymosod wrth ddechrau dros ei wlad am y tro cyntaf.

Gyda thîm Ryan Giggs yn un arbrofol ar y cyfan, arweiniodd Ben Davies ei wlad mewn stadiwm wag wrth i Gymru gadw un llygad ar y gemau sydd i ddod yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria.

‘Lot o gymeriad’

Roedd hi’n “anodd” iddyn nhw adennill tir ar ôl ildio’r gôl gyntaf, yn ôl Davies.

“Oedd hi’n gêm anodd i ni yn y diwedd, o’n i’n credu bo ni reit yn y gêm ar y dechrau,” meddai’r capten.

“Oedd y bois wedi dangos lot o gymeriad i chwarae gyda’r bêl ond roedd y gôl gyntaf wedi cymryd lot o’r gêm i ffwrdd o ni achos o’n i’n credu bo ni wedi chwarae’n eitha’ da lan at y pwynt yna.

“Mae’n rhaid i ni gymryd y gemau nesaf fel y gemau mwyaf pwysig nawr, mae pwyntiau ar y llinell i ni ac mae siawns i ni ddangos beth ni’n gallu gwneud yn y gemau yna.”

Hyderus

Er gwaetha’r siom yn Wembley, mae Ben Davies yn hyderus y gall Cymru fynd i Iwerddon ddydd Sul (Hydref 11) yn llawn hyder.

“Mae cwpwl o ddyddiau gyda ni nawr i edrych nôl ar y gem hon ond dyn ni’n mynd mewn i’r gêm yn erbyn Iwerddon yn hyderus iawn,” meddai.

“Mae record dda gyda ni yn erbyn Iwerddon a does dim rheswm pam y’n ni ddim yn gallu mynd yna a gwneud e eto.”

Er ei siom, mae’n dweud bod cael arwain ei wlad yn Wembley yn “deimlad arbennig”.

“Mae’n rhywbeth fi wedi bod yn breuddwydio amdano ers i fi fod yn ifanc, felly yn foment browd iawn,” meddai.

Kieffer Moore
Kieffer Moore

Yn y cyfamser, mae’r rheolwr Ryan Giggs yn cyfaddef nad yw’n glir pa mor ddifrifol yw’r anaf i’r ymosodwr Kieffer Moore.

Fe ddaeth oddi ar y cae ag anaf i’w droed, gyda Neco Williams yn dod i’r cae yn ei le.

“Dydyn ni ddim yn hollol sicr, ond mae e wedi anafu bys ei droed,” meddai.

“Byddwn ni’n ei asesu fe ac os oes rhaid iddo fe gael sgan, bydd e’n cael y sgan yn y bore ond ar hyn o bryd, mae’n boenus.

“Wrth gwrs, os yw’n gleisiau yna mae’n mynd i fod yn boenus ond fyddwn ni ddim yn gwybod tan i ni gael sgan sut mae e.”

Ond fe wnaeth yr ymosodwr greu argraff ar ei reolwr cyn yr anaf.

“Ro’n i’n meddwl ei fod e’n waith caled heno, yn fygythiad go iawn,” meddai Giggs.

“Fe wnaeth y gôl newid pethau ond pan aeth Kieffer oddi ar y cae, fe gollon ni fygythiad.

“Ond hefyd o ran chwarae gosod, fe wnaethon ni ildio dwy gôl wael ac mae [Kieffer Moore] yn rhan fawr o amddiffyn chwarae gosod.

“Mae’n ergyd ond mae gyda ni opsiynau eraill hefyd.”

Fe ddeth cadarnhad gan y rheolwr y bydd Aaron Ramsey yn holliach i gael ei ystyried ar gyfer y penwythnos.