Mae cyn chwaraewr canol cae Cymru, Carl Robinson, wedi cael ei benodi fel prif hyfforddwr newydd Western Sydney Wanderers yng Nghynghrair Awstralia (Australian A League).
Daw hyn ar ôl iddo ymuno â Newcastle Jets, sydd hefyd yn chwarae yng Nghynghrair Awstralia, fis Chwefror.
Dywedodd Western Sydney Wanderers y bydd cyn-ymosodwr yr Alban Kenny Miller yn ymuno â staff Carl Robinson fel is-hyfforddwr.
“Weithiau rwyt ti’n derbyn cyfle sy’n rhy dda i’w wrthod,” meddai Carl Robinson.
“Mae hwn yn glwb pêl-droed gwych, yn glwb mawr yn y gynghrair, ac yn un sydd â’r sylfeini i fod yn llwyddiannus.”
Enillodd Carl Robinson 52 cap dros Gymru dros yrfa 16 mlynedd, cyn dechrau hyfforddi.
Cafodd ei ystyried ar gyfer swydd rheolwr Cymru cyn i Ryan Giggs gael ei benodi ddwy flynedd yn ôl.