Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr i wynebu Ynysoedd y Ffaro a Norwy.
Mae’r gôl-geidwad Olivia Clark nol yn y garfan ac fe fydd Josie Longhurst yn rhan o’r tîm am y tro cyntaf.
Nid yw Megan Wynne ar gael ar ôl cael ei hanafu fis diwethaf, ac mae’r amddiffynnwr Loren Dykes yn absennol oherwydd rhesymau personol.
Bydd gan Gymru ddigon o brofiad ar y cae ar gyfer y gemau allweddol, yn cynnwys y capten Sophie Ingle – a gyrhaeddodd 100 o gapiau i Gymru fis diwethaf – Jess Fishlock a Natasha Harding.
Fe fydd Cymru yn wynebu Ynysoedd y Ffaro yn Rodney Parade, Casnewydd ddydd Iau (Hydref 22) cyn chwarae Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mawrth (Hydref 27), gyda’r ddwy gêm yn dechrau am 4:30yh.
Bydd y naw tîm sydd yn curo eu grŵp a’r tri thîm gorau yn yr ail safle (heb ystyried gemau yn erbyn y tîm yn y chweched safle) yn cyrraedd cystadleuaeth Ewro 2022, tra bod y chwe thîm arall yn yr ail safle yn cystadlu yn y gemau ail-gyfle.