Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn mynnu na fydd y clwb yn gwerthu Joe Rodon am bris isel cyn i’r ffenest drosglwyddo gau am 5 o’r gloch fory (dydd Gwener, Hydref 16).
Mae adroddiadau’n cysylltu amddiffynnwr canol Cymru â Spurs, ac mae lle i gredu bod yr Elyrch yn gofyn am £20m, er mai £7m oedd amcanbris gwreiddiol y Llundeinwyr.
“Yr hyn fyddwn i’n ei ddweud am Joe neu unrhyw un arall o’n hasedau ni – ac mae Joe ymhlith ein rhai mwyaf – yw ei bod hi’n bwysig iawn, os oes rhaid i ni ei werthu – ein bod ni’n cael rhywbeth amdano fe,” meddai.
“Ddylen ni ddim bod yn gwerthu’n rhad. Mae cynsail wedi’i osod eleni,” meddai wedyn wrth sôn am drosglwyddiad Ben Godfrey o Norwich i Everton am £25m.
“Dyw’r chwaraewr hwnnw ddim yn un rhyngwladol, ond mae Joe, ac rydych chi wedi gweld pa mor dda mae e wedi chwarae dros Gymru.
“Os mai dyna’r pris arferol, a dyna’r rhifau sy’n cael eu taflu o gwmpas p’un a ydw i’n cytuno neu beidio, dyna ni.
“Os ydyn ni’n colli ased yna bydd ein cefnogwyr am weld ailfuddsoddiad a chwaraewyr da yn dod i mewn.”
Harry Wilson
Un chwaraewr ymosodol sydd wedi’i gysylltu â’r Elyrch yw Harry Wilson, blaenwr Cymru.
Dydy hi ddim yn glir beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd, a’r gred yw fod Lerpwl wedi gofyn am £1m pe bai’r Elyrch am ei ddenu ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.
“Dw i’n hoff iawn o Harry,” meddai Steve Cooper, gan gyfaddef iddo geisio’i ddenu i Academi Wrecsam pan oedd e’n wyth oed ac ar fin ymuno â Lerpwl, lle’r oedd Cooper wedi gweithio fel hyfforddwr timau ieuenctid.
“Mae’n dda iawn pan ydych chi wedi gweithio gyda chwaraewyr trwy gydol eu datblygiad.
“Y tro cyntaf i fi geisio arwyddo Harry, roedd e dan wyth oed. Fe wnes i drio’i gael e yn Wrecsam ond fe wnaeth e arwyddo gyda Lerpwl.
“Dw i’n nabod Harry yn iawn, a’i deulu yn sgil ei amser gyda Lerpwl ac o ran lle cafodd ei fagu ddim yn bell iawn o le mae cartref fy nheulu.
“Dw i bob amser yn dilyn y chwaraewyr dw i wedi gweithio â nhw, yn cadw cysylltiad ac yn rhoi gwybod iddyn nhw fy mod i yma os oes angen ychydig o gyngor arnyn nhw.
“Mae Harry wedi cael profiad da yn y Bencampwriaeth ac mae e wedi dangos ei fod e’n abl iawn i ragori ar y lefel yna.
“Yn yr Uwch Gynghrair y llynedd, dw i’n credu’i fod e wedi sgorio saith gôl, sy’n nifer dda i dîm oedd wedi gostwng [Bournemouth].”