Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Morrell, wedi ymuno â Luton o Ddinas Bryste.

Bydd Joe Morrell, sydd yn 23, yn ymuno â chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Tom Lockyer a Rhys Norrington-Davies yn Kenilworth Road.

“Rwy’n gyffrous iawn,” meddai.

“Yn amlwg roedd yn benderfyniad anodd i mi adael y clwb rydw i wedi bod ynddo ers 11 mlynedd.

“Roedd hi’n mynd i gymryd cynnig gwych i mi adael Bryste a dw i’n teimlo mai dyna sydd gen i yma yn Luton.

“Rydw i wedi bod yn Bristol City ers amser maith, wedi profi pethau da a drwg ac wedi chwarae ychydig o gemau, ond efallai ddim cymaint ag y byddwn i wedi hoffi.

“Rhaid i chi chwarae a gobeithio bod gen i gyfle i wneud hynny yma gyda Chymro fel rheolwr [Nathan Jones] ac ychydig o chwaraewyr o Gymru yma hefyd.”

Chwaraeodd ei gêm ryngwladol y llynedd ac mae ganddo bellach 9 cap dros Gymru.

Dim ond chwe gêm chwaraeodd i dîm cyntaf Bryste.