Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil wedi cychwyn erlyniad am droseddau sy’n gysylltiedig â’r ddamwain awyren a laddodd y pêl-droediwr Emiliano Sala y llynedd.

Mae David Henderson wedi ei gyhuddo o weithredu mewn modd “esgeulus”, ac o fod yn rhan o ddefnydd masnachol yr awyren a fu’n rhan o’r ddamwain.

“Mae Awdurdod Hedfan Sifil y Deyrnas Unedig wedi cychwyn erlyniad yn erbyn David Henderson am droseddau sy’n gysylltiedig â’r ddamwain awyren angheuol dros y sianel ym mis Ionawr 2019.” meddai cyfarwyddwr yr Awdurdod Hedfan Sifil, Richard Stephenson.

“Byddai’n yn amhriodol i’r Awdurdod Hedfan Sifil ddweud unrhyw beth pellach nes bydd yr achos yn dod i ben.”

Ymddangosodd David Henderson, 66, o East Riding of Yorkshire, yn Llys Ynadon Caerdydd fis Medi.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar Hydref 26.

Cefndir

Roedd Emiliano Sala, 28, ymosodwr o’r Ariannin, yn hedfan o Nantes i Gaerdydd wedi iddo arwyddo gyda chlwb Dinas Caerdydd, pan blymiodd yr awyren i’r Sianel ar Ionawr 21, 2019.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod yng ngweddillion yr awyren, ond nid yw corff y peilot David Ibbotson wedi cael ei ddarganfod.

Dywed adroddiad a gyhoeddwyd gan y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr nad oedd gan David Ibbotson drwydded i gynnal teithiau awyren masnachol.