Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi dweud wrth golwg360 fod llwyddiant yr Elyrch yn gallu bod yn fendith ac yn felltith wrth geisio cadw chwaraewyr yn y Liberty.

Daw ei sylwadau wrth i Abertawe baratoi i groesawu Huddersfield i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn (Hydref 17), ddiwrnod ar ôl i’r ail ffenest drosglwyddo gau.

Mae’r adroddiadau’n parhau fod Joe Rodon ar ei ffordd i Spurs, lle byddai’n ymuno ag un arall o gyn-chwaraewyr yr Elyrch, Ben Davies, ac yn codi i’r un lefel â Daniel James sy’n chwarae i Manchester United yn Uwchgynghrair Lloegr ers gadael Abertawe.

At hynny, mae Neil Taylor wedi mynd yn ei flaen i chwarae i Aston Villa yn yr Uwchgynghrair.

Gyda chlybiau mawr yn dod am chwaraewyr yr Elyrch, mae’r clwb wedi’i chael hi’n fwyfwy anodd i gadw eu gafael ar rai o’r sêr ifainc sydd wedi torri trwodd o’r Academi.

Ond ar ochr arall y geiniog, mae Steve Cooper o’r farn fod denu diddordeb y clybiau mawr yn arwydd fod yr Elyrch yn llwyddiannus wrth feithrin doniau’r to iau.

“Os ydyn ni’n denu diddordeb clybiau’r Uwchgynghrair, a chlybiau mawr yr Uwchgynghrair, yna rydyn ni’n gwneud rhywbeth yn iawn fel clwb,” meddai.

“Boed e’n ceisio dewis y chwaraewyr ifainc hyn, ceisio chwarae brand arbennig o bêl-droed, ennill gemau, mae’r cyfan oll yn mynd law yn llaw â’i gilydd.

“Gall clybiau ddioddef yn sgil eu llwyddiant eu hunain yn nhermau colli chwaraewyr, ond dydych chi ddim yn colli chwaraewyr os ydych chi’n aflwyddiannus.

“Ond rhaid i ni ddal i fynd a dal i gredu yn yr hyn ry’n ni’n ei wneud.

“Ry’n ni’n dal i deimlo ein bod ni’n adeiladu.”

Asesu perfformiadau triawd Cymru

Joe Rodon
Joe Rodon

Dywed Steve Cooper ei fod e’n falch o berfformiadau ei dri chwaraewr dros Gymru yn y gemau yn erbyn Lloegr, Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria.

“Chwaraeodd Joe ddwy gêm a hanner ac ro’n i’n meddwl ei fod e’n awdurdodol, a’i fod e wedi parhau â’i berfformiadau i’w glwb ar lwyfan gwahanol, ac roedd e’n edrych yn solet yn y cefn,” meddai.

Connor Roberts

“Mae Connor yn edrych fel chwaraewr rhyngwladol profiadol nawr.

“Dyw e ddim yn chwaraewr ifanc rhagor, fel ry’n ni’n gwybod, a dw i’n credu ei fod e’n dechrau dangos hynny o ran ei berfformiadau.

“Mae e’n edrych yn gyfforddus iawn ar y lefel yna, wrth symud o chwarae fel asgellwr amddiffynnol gyda ni a mynd yn ôl i fod yn gefnwr.

“Dw i’n gwybod nad yw’n anodd iawn iddo fe oherwydd mae e wedi chwarae yn y ddau safle i ni.

“Yn amddiffynnol, ro’n i’n credu bod Connor yn wych yn y munudau chwaraeodd e.

Ben Cabango
Ben Cabango

“Ac am brofiad gwych i Ben gael chwarae dros Gymru yn Wembley mewn gêm rhwng Cymru a Lloegr!

“Dw i’n gwbyod nad oedd e cweit beth oedden ni am iddo fe fod heb gefnogwyr ar hyn o bryd, ond mae’n dal yn achlysur mawr.

“Chwaraeodd e â chryn aeddfedrwydd.

“Dw i’n gwybod fod y 45 munud yn rhai anodd yn nhermau sut aeth y gêm honno ond ro’n i’n credu bod Ben wedi dod i ffwrdd yn haeddu tipyn o glod, ac fe wnes i achub ar y cyfle i ddweud wrtho fe wedyn pa mor browd oedden ni ohono fe.”

Chwaraewyr Cymru’n helpu Abertawe

Gyda’r tri yn chwarae dros eu gwlad, all hynny ddim ond helpu’r Elyrch, yn ôl Steve Cooper, oedd yn rheolwr ar dîm dan 17 Lloegr cyn cael ei benodi gan y clwb.

“Gall pêl-droed ryngwladol wir helpu o ran datblygiad,” meddai.

“Dw i wedi cael blas ar hynny fy hun, er bod hynny o ran oedran iau.

“Mae’n cynnig rhywbeth gwahanol, nid yn unig o ran gemau ond hefyd o ran paratoi.

“Mae [pêl-droed ryngwladol] yn wahanol ac mae’n eich profi chi.

“Er mwyn perfformio’n dda ar y llwyfan rhyngwladol, rhaid i chi allu addasu a bod yn chwaraewr galluog.

“Maen nhw’n gwneud mor dda dros Gymru ac mae’r tîm yn gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd.

“Dw i wir yn credu bod hynny’n beth da i ni, ac fe fyddan nhw’n dychwelyd yn llawn hyder.

“Yr her i ni ddydd Sadwrn yw parhau o le’r oedden ni oherwydd ry’n ni’n teimlo ein bod ni’n chwarae’n dda ac rydyn ni wedi cyffroi wrth feddwl am wella hefyd.

“Y lleiafswm sydd angen i ni ei wneud ddydd Sadwrn yw cyrraedd y lefel wnaethon ni ei chyrraedd yn erbyn Millwall.”