Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi cyhoeddi strwythur newydd ar gyfer fformat hir y gêm yn 2021.
Wrth i’r ansicrwydd ynghylch y coronafeirws barhau, mae’r strwythur yn gam tuag at y drefn arferol.
Yn 2020, doedd dim Pencampwriaeth y Siroedd, gyda phob un o’r 18 sir yn cystadlu am Dlws Bob Willis mewn grwpiau rhanbarthol, cyn cynnal ffeinal pum niwrnod yn Lord’s.
Bydd y ddau dîm gorau yn y strwythur newydd y tymor nesaf yn cystadlu am Dlws Bob Willis ar ôl cyfres o gemau grŵp a chynghrair.
Sut fydd y strwythur yn gweithio?
- Ar ôl cael eu rhannu’n dri grŵp yn ôl eu safleoedd yn nwy adran Pencampwriaeth y Siroedd yn 2019, bydd pob sir yn chwarae 10 gêm yn eu grwpiau – pum gêm gartref a phump oddi cartref.
- Bydd y ddwy sir orau ym mhob grŵp yn mynd yn eu blaenau i’r Adran Gyntaf.
- Bydd y chwe sir yn yr Adran Gyntaf yn chwarae pedair gêm yr un, gyda’r sir ar y brig wedi’r gemau hynny’n cael eu coroni’n Bencampwyr y Siroedd.
- Bydd y ddwy sir orau yn yr Adran Gyntaf hefyd yn cystadlu am Dlws Bob Willis mewn gêm pum niwrnod yn Lord’s.
- Bydd y 12 sir y tu allan i’r Adran Gyntaf yn mynd i’r Ail neu’r Drydedd Adran yn ôl lle maen nhw’n gorffen yn y grwpiau, ac yn chwarae pedair gêm arall yn eu hadrannau.
Y grwpiau
Bydd Morgannwg yn cystadlu yng Ngrŵp 3, ynghyd â Swydd Caint, Swydd Efrog, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Northampton a Sussex.
Yng Ngrŵp 1 fydd Essex, Swydd Warwick, Swydd Nottingham, Swydd Derby a Swydd Gaerwrangon.
Yng Ngrŵp 2 fydd Gwlad yr Haf, Swydd Hampshire, Surrey, Swydd Gaerloyw, Middlesex a Swydd Gaerlŷr.