Mae Gareth Bale a Ben Davies wedi helpu Clwb Pêl-droed Tottenham Hotspur i gyhoeddi bod eu cyd-Gymro Joe Rodon wedi ymuno â’r clwb o Abertawe.

Mae’r fideo’n dangos y ddau yn eistedd wrth y dderbynfa yn aros i gar yr amddiffynnwr canol 22 oed gyrraedd y gât.

Mae lle i gredu mai oddeutu £11m yw’r ffi, gyda’r posibilrwydd y gallai godi i £15m maes o law, a’i fod e wedi llofnodi cytundeb pedair blynedd.

Er i’r ffenest drosglwyddo gau am 5 o’r gloch, bu’n rhaid aros i glywed bod y gwaith papur priodol wedi cael ei gwblhau cyn bod modd i’r naill glwb a’r llall gyhoeddi’r cytundeb.

Mae Spurs hefyd wedi trydar llun o’r Cymro yn dal crys y clwb.

Ac mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi dymuno’n dda iddo fe mewn neges ar eu tudalen Twitter.

Yn y cyfamser, mae Abertawe wedi denu Joel Latibeaudiere o Manchester City ar gytundeb tair blynedd, mae Kasey Palmer wedi ymuno ar fenthyg am dymor o Bristol City ac mae Ryan Bennett hefyd wedi symud o Wolves ar gytundeb tair blynedd.

Ar yr unfed awr ar ddeg, ymunodd Ryan Manning ar gytundeb tair blynedd o QPR.

Mae dau Gymro arall wedi gadael Lerpwl ar fenthyg, wrth i Harry Wilson ymuno â Chaerdydd, tra bod Ben Woodburn wedi ymuno â Blackpool.

Eisoes yr wythnos hon, roedd Matt Smith wedi symud o Manchester City i Doncaster, tra bod Joe Morrell wedi gadael Bristol City am Luton.