Mae Huddersfield wedi amddifadu Abertawe o’u record ddiguro yng Nghynghrair Pencampwriaeth Sky Bet wrth iddyn nhw eu curo 2-1 yn Stadiwm Liberty.

Fe wnaeth Josh Koroma sicrhau’r fuddugoliaeth i Huddersfield yn y 67fed munud, ar ôl i’r ddau dîm sgorio gôl yr un yn yr hanner cyntaf.

Er i Abertawe wthio Huddersfield yn ôl i’w hanner eu hunain am yr 20 munud cyntaf, fe wnaeth Harry Toffolo sgorio dros Huddersfield o gic gornel gyntaf y gêm dri munud yn ddiweddarach.

Ddeng munud wedyn, daeth Andre Ayew ag Abertawe’n ôl yn gyfartal mewn cic o’r smotyn. Cafodd ddathlu ei 100fed gêm i’r clwb gyda’i 32ain gôl.

Er nad oedd Huddersfield wedi ennill oddi cartref ers 1 Gorffennaf pan wnaethon nhw guro Birmingham 3-0, fe gychwynnon nhw’r ail hanner yn llawer mwy hyderus ac fe allen nhw fod wedi sgorio deirgwaith o fewn 10 munud.

Doedd yr Elyrch ddim yn chwarae cystal erbyn hynny, a doedd dim ffordd yn ôl iddyn nhw ar ôl ail gôl Huddersfield.