Cafodd rheolwr Casnewydd, Michael Flynn, ddathlu ei benblwydd yn 40 oed gyda buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Tranmere Rovers y pnawn yma – diolch i gôl gyntaf Saikou Janneh yn y gynghrair.

Sgoriodd Janeh yn hawdd yn yr hanner cyntaf, ac ar ôl i chwaraewr canol cae Tranmere, Paul Lewis, gael cerdyn coch yn syth wedi hanner amser, cafodd tîm Michael Flynn reolaeth lwyr o’r sefyllfa.

Er iddyn nhw fethu ag ychwanegu ail gôl, roedd y tri phwynt yn anrheg perffaith i Michael Flynn wrth i Gasnewydd ennill eu ffordd yn ôl i ail safle Cynghrair Dau.

Roedd yn fuddugoliaeth gwbl haeddiannol i’r Alltudion.